Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 x7 (dyddiad cau: 29/05/25)
£25,584 - £26,409 y flwyddyn. Mae Maes Derw (PRU) yn chwilio am 7 Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 i ymuno â thîm amrywiol a gweithgar sy'n darparu amrywiaeth o raglenni addysg ochr yn ochr â chymorth cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol i ddisgyblion yn y PRU. Amser y tymor, 31 awr yr wythnos.
Teitl y swydd: Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 x7
Rhif y swydd: ED.68465
Cyflog: £25,584 - £26,409 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Maes Derw (PRU) Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 Disgrifiad swydd (PDF, 260 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.68465
Dyddiad cau: 11.45pm, 29 Mai 2025
Mwy o wybodaeth
Ar hyn o bryd mae gennym 7 swydd Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 yn wag yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion. Mae Maes Derw yn darparu ar gyfer 158 o ddisgyblion o bob ysgol yn Abertawe rhwng 5-16 oed.
Mae gan bob un o'n disgyblion iechyd meddwl, gorbryder neu anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (SEBD) ac felly, mae profiad diweddar a pherthnasol o weithio gyda disgyblion sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yn hanfodol.
Mae pob swydd yn destun gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Gwell.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion fod wedi'i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) o 1 Ebrill 2016 ymlaen.
Bydd y swyddi ar gael i ddechrau cyn gynted â phosibl. Gan fod y swyddi hyn yn ystod y tymor, maent yn destun addasiad yn ystod y tymor yn unig os yw dechrau cyflogaeth y tu allan i ddyddiad dechrau a gorffen y flwyddyn academaidd h.y. 1 Medi/31 Awst 2025.
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol