Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynorthwyydd Cyllid HRA (dyddiad cau: 29/05/25)

£25,584 - £26,409 y flwyddyn. Mae cyfle wedi codi mewn Tai Strategol i Gynorthwyydd Cyllid ymuno â'r Tîm Datblygu Cyllid a TG. Gan weithio i'r Cyfrif Refeniw Tai (HRA), rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chydwybodol a fydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth ariannol i'r adran. Mae'r swydd hon yn barhaol, llawn amser ac yn cefnogi gweithio hybrid.

Teitl y swydd: Cynorthwyydd Cyllid HRA
Rhif y swydd: PL.73651
Cyflog: £25,584 - £26,409 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Cynorthwyydd Cyllid HRA (PL.73651) Disgrifiad swydd (PDF, 216 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.73651


Dyddiad cau: 11.45pm, 29 Mai 2025


Mwy o wybodaeth

Bydd y Cynorthwyydd Cyllid yn bennaf gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cymorth ariannol ar gyfer yr adran ac adrannau eraill.  Bydd deiliad y swydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth Uwch Swyddog Cyllid HRA o ddydd i ddydd ac mae'n gyfle gwych i ennill profiad allweddol o Gyllid Llywodraeth Leol.

Bydd yr ymgeisydd yn llythrennog ac yn rhifedig ac yn uchelgais i weithio ym maes cyllid, mae astudio AAT yn ddymunol ond nid yn hanfodol.  Byddwch hefyd yn cael cyfathrebu da a sgiliau rhyngbersonol, a lefel uchel o sgiliau TG.

Yn ddyddiol, byddwch yn monitro ac yn adolygu'r holl anfonebau Cyfrifon Derbyniadwy sy'n ddyledus, mynd ar drywydd cwsmeriaid er mwyn setlo taliadau a datrys anghydfodau yn gyflym.  Fe fyddi di hefyd cysylltu â chydweithwyr ym maes Tai ac ar draws yr Awdurdod yn ymateb i ymholiadau a darparu gwybodaeth ariannol benodol.  

Yn ôl yr angen, byddwch yn darparu adroddiadau a gwybodaeth ariannol i gefnogi monitro a hawliadau grant a chwmpasu dyletswyddau gweinyddol eraill i'r tîm yn ystod amseroedd prysur neu gyfnodau o absenoldeb.

Cysylltwch â Helen Davies (Tai) Helen.Davies@swansea.gov.uk os hoffech drafod y rôl ymhellach.

Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Mai 2025