Seicolegydd Addysg (dyddiad cau: 29/05/25)
Cyflog Soulbury 2 - 6 + pwynt SPA lle mae'n gymwys. Mae Gwasanaeth Seicoleg Addysgol Abertawe (EPS) yn chwilio am Seicolegydd Addysgol (EP) deinamig a chreadigol i ddarparu gwasanaethau seicolegol i blant, pobl ifanc, teuluoedd, ysgolion ac asiantaethau partner.
Teitl y swydd: Seicolegydd Addysgol
Rhif y swydd: ED.0288-V2
Cyflog: Soulbury 2 - 6 + pwynt SPA lle mae'n gymwys
Disgrifiad swydd: Seicolegydd Addysgol (ED.0288-V2) Disgrifiad swydd (PDF, 222 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.0288-V2
Dyddiad cau: 11.45pm, 29 Mai 2025
Mwy o wybodaeth
Rhaid i'r EP allu gweithio'n hyblyg, rheoli ffrydiau gwaith cymhleth ar yr un pryd a chwrdd â dyddiadau cau tynn. Dylai ymgeiswyr fod â phrofiad o weithio o fewn model darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar ymgynghoriad. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth o'r cyfraniad unigryw y gall EPs ei wneud i addysg a lles pawb.
Mae gan yr EPS hanes hir o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ysgolion yn ogystal â darparu hyfforddiant a gweithgareddau meithrin gallu. Bydd angen i ymgeiswyr dystio sgiliau cydweithredol a gweithio tîm a all gyfrannu at ddatblygiad yr EPS. Mae gwybodaeth gadarn o Ddeddf ALNET (2018) a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (2021) yn hanfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adrodd i'r Pennaeth a'r Uwch Seicolegwyr Addysgol.
Rhaid i ymgeiswyr fod eisoes wedi ennill gradd israddedig a/neu radd uwch sy'n rhoi Sail Graddedigion ar gyfer Cydnabyddiaeth (GBR) gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain (BPS).
Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod wedi'u cofrestru fel EP ymarferydd gyda'r Cyngor Proffesiynau Gofal Iechyd (HCPC) neu fod yn eu blwyddyn olaf o raglen hyfforddiant doethurol mewn seicoleg addysgol sy'n rhoi cymhwysedd i gofrestru gyda'r HCPC fel EP.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â steve.laycock@swansea.gov.uk neu Hilary.Bignell@swansea.gov.uk
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol