Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Achos Digartrefedd (dyddiad cau: 02/06/25)

£31,067 - £34,314 y flwyddyn. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Gwaith Achos mewn Opsiynau Tai fel Gweithiwr Achos Digartrefedd, sy'n gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth tai i aelwydydd sy'n cyflwyno eu bod yn ddigartref, neu sydd mewn perygl o ddigartrefedd.

Teitl y swydd: Gweithiwr Achos Digartrefedd
Rhif y swydd: PL.0278-V1
Cyflog: £31,067 - £34,314 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Achos Digartref (PL.0278-V1) Disgrifiad swydd (PDF, 223 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y sywdd PL.0278-V1


Dyddiad cau: 11.45pm, 2 Mehefin 2025


Mwy o wybodaeth 

Mae'r Tîm Gwaith Achos wedi'i leoli o fewn Opsiynau Tai ac mae'n gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth tai i gleientiaid sy'n cyflwyno fel digartref neu mewn perygl o ddigartrefedd.

Bydd diwrnod arferol o weithio yn ein tîm yn cynnwys rheoli llwyth achosion, defnyddio dull person-ganolog i gynnal asesiadau tai manwl, cymryd camau i atal digartrefedd a gwneud penderfyniadau statudol i'r digartrefedd. 

Gan weithio fel rhan o'r tîm generig, byddwch yn cefnogi cleientiaid i ddod o hyd i atebion i'w problemau tai a byddwch yn gwneud hyn drwy ddarparu cyngor a chymorth tai ac ariannol, cysylltu â landlordiaid a datblygu cynlluniau tai wedi'u personoli ar gyfer cwsmeriaid sy'n canolbwyntio'n gadarn ar atal digartrefedd. 

I'r rhai na ellir atal eu digartrefedd, byddwch yn gweithio i ddod o hyd i lety addas i alluogi symud ymlaen o lety dros dro cyn gynted â phosibl.

Bydd angen i chi fod yn drefnus, yn empathig ac yn addasadwy i newid mewn amgylchedd gwaith prysur. Byddwch hefyd yn brofiadol mewn gweithio mewn partneriaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gemma Jenkins, Arweinydd Tîm Gwaith Achos gemma.jenkins2@swansea.gov.uk      

Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Mai 2025