Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gymraeg Tan-y-lan : Athrawes Ysgol Gynradd

(dyddiad cau: 30/05/25)(12hanner dydd) Cytundeb blwyddyn. Cyfrifoldeb Cwricwlaidd/ysgol : i'w drafod gan yr ymgeusydd Llwyddiannus Cyflog: Prif Raddfa Gyflogau Athrawon Dyddiad dechrau: Medi 2025 (mor gynt â phosib wedi hynnu)

Ysgol Tan-Y-Lan
Hill View Cres, Clase, Abertawe SA6 7HN
Ffion: 01792 772800
E-bost: YGGTanylan@yggtan-y-lan.swansea

Dymuna Corff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Tan-y-lan, benodi unigolyn ymroddgar, cydwybodol, profiadol a llawn cymhelliant  fel athro/athrawes yn yr ysgol arbennig hon.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion sy'n  barod i wynebu'r her gyffrous o gyd-weithio law yn llaw â holl randdeiliaid yr ysgol er mwyn sefydlu a datblygu'r ysgol hon yn llwyddiannus i'r dyfodol.

Bydd disgwyl i'r aeold yma:

  • fod yn ymarferydd addysgu ardderchog
  • lwyr ymroi at ragoriaeth mewn perthynas â chyrhaeddiad  a safonau
  • disgyblion
  • fod yn barod i ddatblygu a chynnal ethos Gymraeg a Chymreig yr ysgol
  • fod yn  barod i rannu  a gweithredu'r weledigaeth yr ysgol ymhob agwedd o'i bywyd beunyddiol
  • arddangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
  • arwain, annog ac ysbrydoli eraill
  • ymateb yn gadarnhaol i heriau
  • i gael angerdd am addysg Gymraeg ac i ddathlu cyfefin ardal yr ysgol
  • gyfrannu at weithdrefnau hunanwerthuso

Byddai'r modd o ganu'r piano yn fantais ar gyfer y swydd yma ond nid yn angenrheidiol 

Mae'r gallu i addysgu a chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Dyddiad Cau: Dydd Llun, 30/5/2025 (12.00 canol dydd)

Arsylwad Gwers a rhestr fer yn yn ystod wythnos yn cychwyn 2/6/2025 

Cyfwleiadau i'r ymgeiwyr llwyddiannus yn ystod wythnos 9/6/2025 

Gofynnwn i ymgeiswyr i ddychwelyd ei ffurflenni cais drwy e-bost i glerc y llywodraethwyr Maxwellg3@hwbcymru.net 

Mae croeso i ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol neu cysylltu gyda'rysgol I drafod y swydd ym mhellach. Ar gyfer trefnu apwyntiad gofynnwn yn garedig i ymgeiswyr gysylltu â'r pennaeth  Mr Berian Wyn Jones yn yr ysgol drwy e bost neu ffôn.

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)

Disgrifiad swydd 2025 Athro-Athrawes (PDF, 173 KB)

Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Mai 2025