Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Penyrheol : Athro Hanes

(dyddiad cau: 04/06/25)(3pm) Athro Hanes - Contract Blwyddyn (MPS/UPS) Mae gennym gyfle cyffrous i ymarferydd deinamig a brwdfrydig ymuno â'n hAdran Hanes lwyddiannus. Mae'r swydd hon am flwyddyn yn y lle cyntaf. Os ydych chi'n credu bod gennych y cymwysterau, y wybodaeth a'r rhinweddau personol perthnasol, hoffem glywed gennych.

Ysgol Gyfun Penyrheol
Heol Pontarddulais, Gorseinon, Abertawe SA4 4FG
(Cymysg) (872 ar y gofrestr) (Ystod Oedran 11-16)

Mae ffurflenni cais a manylion ar gael i'w lawrlwytho o'n tudalen ar www.eteach.com. Yn ogystal, gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r pecyn gwybodaeth o www.swansea.gov.uk

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)

Ysgol Gyfun Penyrheol - Pecyn Cais - Athro Hanes (PDF, 982 KB)

Dylid dychwelyd ffurflenni cais i'r cyfeiriad uchod neu eu hanfon drwy e-bost at historyjobs@penyrheol-comp.swansea.sch.uk

Dyddiad Cau: 3:00 pm Dydd Mercher 4 Mehefin 2025
Rhestr fer: Dydd Gwener 6 Mehefin 2025
Cyfweliadau: Dydd Mercher 11 Mehefin 2025

Amcan yr amserlen apwyntiadau yw hysbysu ymgeiswyr am y dyddiadau y bydd yr ysgol yn gweithio iddynt ar gyfer y swydd wag a hysbysebwyd.  Dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi cael cynnig cyfweliad erbyn dydd Llun 9 Mehefin gymryd yn ganiataol nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn.

Datganiad Diogelu

Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS uwch 

O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw busnes pawb" ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding

Mae Ysgol Gyfun Penyrheol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mai 2025