Toglo gwelededd dewislen symudol

Gyrrwr x 5 (dyddiad cau: 03/06/25)

£24,790 - £25,183 y flwyddyn. Mae gan yr Uned Trafnidiaeth Cleientiaid swyddi gwag dros dro ar gyfer Gyrwyr. Mae'r swyddi hyn yn llawn amser (37 awr yr wythnos), ac mae 5 swydd wag ar gael.

Teitl y swydd: Gyrrwr x 5
Rhif y swydd: PL.61384-V1
Cyflog: £24,790 - £25,183 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gyrrwr (PL.61384-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 265 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.61384-V1

Dyddiad cau: 11.45pm, 3 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae'r depo Trafnidiaeth Cleientiaid yn Fforestfach yn gweithredu oddeutu 60 o gerbydau. Diwrnod arferol yn y gwasanaethau fyddai cludo defnyddwyr gwasanaeth, a allai fod yn Henoed, ag Anabledd Corfforol neu Anabledd Dysgu, i un o nifer o leoliadau o fewn ffiniau Cyngor Abertawe. Byddai'r lleoliadau hyn yn cynnwys Canolfannau Dydd, Canolfannau Nos, clybiau amrywiol a chanolfannau hyfforddi. 

Rydym yn cludo plant i'r ysgol ac o'r ysgol ac yn cefnogi'r gymuned gyda thrafnidiaeth.  

Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn cyfleu cleifion allanol i ac o apwyntiadau ysbyty mewn partneriaeth ag ABMU 

Mae ein fflyd yn cynnwys ystod o gerbydau sy'n cynnwys ceir a bysiau mini hygyrch o wahanol feintiau.  Fel Gyrrwr bydd gofyn i chi feddu ar drwydded yrru lawn gyda chategori D1 (cyfyngiad 101) neu drwydded PCV, yn dibynnu ar y cerbydau y byddech chi'n eu gyrru. 

Bydd y gofynion swydd yn cynnwys cyfrifoldeb am ddiogelwch a chysur ein defnyddwyr gwasanaeth yn ystod eu taith, am sicrhau bod cadeiriau olwyn a ddefnyddir yn cael eu diogelu'n iawn yn ogystal â chynorthwyo ar ac oddi ar ein cerbydau.

Pan nad yw'n ymwneud â gyrru, bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys cynorthwyo i redeg gweithgareddau a chefnogi gyda gofal mewn canolfannau dydd a chlybiau. 

Mae trafnidiaeth yn rhan hanfodol o'r gymuned hebddo ni fyddai rhai o'n teithwyr yn gadael eu cartrefi, cwrdd â ffrindiau a gallu mwynhau bywyd.

Os ydych chi'n chwilio am foddhad swydd, yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd dymunol, prysur, ac yn chwilio am waith sy'n heriol ac yn werth chweil, yna mae gweithio o fewn Trafnidiaeth Cleientiaid ar eich cyfer chi. 

Mae'r swyddi hyn yn rhan o gynllun peilot 'Integrated Transport Solutions' (ITS) a byddant dros dro am 12 mis hyd nes y caiff ei adolygiad.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Mai 2025