Peiriannydd Trydanol Cynorthwyol (dyddiad cau: 04/06/25)
£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n gallu ysgogi ei hun yn ei waith, neu ei gwaith, i ymuno â'n Tîm Dylunio a Chynnal a Chadw Trydanol fel Peiriannydd Gwasanaethau Adeiladu Trydanol Cynorthwyol.
Teitl y swydd: Peiriannydd Trydanol Cynorthwyol
Rhif y swydd: PL.67926
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - .Peiriannydd Trydanol Cynorthwyol PL67926 (PDF, 225 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.67926
Dyddiad cau: 11.45pm, 04 Mehefin 2025
Mwy o wybodaeth
Rydym yn chwilio am berson i weithio swydd amrywiol a diddorol fel rhan allweddol o'r tîm; dylent fod yn hynod drefnus, yn benderfynol, yn gallu dangos dycnwch, ac yn dda am roi sylw i'r manylion. Byddwch yn gweithio gyda nifer o bartneriaid o fewn a thu allan i'r sefydliad ac yn rhan o dîm cryf â phortffolio amrywiol sy'n darparu ystod eang a chyffrous o gynlluniau ar gyfer adeiladau newydd a gwaith adnewyddu yn ogystal â chynnal a chadw ein hadeiladau cyhoeddus, ysgolion, tai, a'n prosiectau treftadaeth presennol.
Er y byddai gwybodaeth a phrofiad o'r diwydiant adeiladu yn fuddiol, mae'r parodrwydd i ddysgu a bod yn hyblyg wrth ymateb i ddiwydiant sy'n newid yn gyflym yn bwysicach.
Os ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r brwdfrydedd a'r awydd i ymgymryd â'r rôl bwysig hon, hoffem glywed gennych. Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, mae croeso i chi gysylltu â Paul Johns - Rheolwr Dylunio a Chynnal a Chadw Trydanol ar 07342 064419.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr.
I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir.