Gweithiwr Ymyrraeth ADY Blynyddoedd Cynnar (dyddiad cau: 04/06/25)
£27,269 - £30,060 y flwyddyn. Gweithiwr Ymyrraeth ADY Blynyddoedd Cynnar
Teitl y swydd: Gweithiwr Ymyrraeth ADY y Blynyddoedd Cynnar
Rhif y swydd: ED.73698
Cyflog: £27,269 - £30,060 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Gweithiwr Ymyrraeth ADY Blynyddoedd Cynnar ED.73698 (PDF, 263 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd ED.73698
Dyddiad cau: 11.45pm, 04 Mehefin 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae hwn yn gyfle gwirioneddol gyffrous i weithiwr proffesiynol blynyddoedd cynnar/gofal plant sydd â chymwysterau priodol a phrofiadol weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i gefnogi'r gwaith o hwyluso a chyflwyno sesiynau chwarae i blant sydd ag anableddau sydd wedi'u diagnosio.
Mae'r cyfle hwn a ariennir gan grant yn cael ei gynnig ar sail amser llawn (37 awr yr wythnos) (52 wythnos y flwyddyn).
Mae'r swydd yn cael ei ariannu i ddechrau tan 31/3/26, ac mae parhad y tu hwnt i'r dyddiad hwn yn amodol ar gadarnhad o gyllid pellach gan LlC. Bydd secondiadau ar gyfer y swydd hon yn cael eu hystyried.
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding
Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.