Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyhoeddi rhestr o ffyrdd sydd i'w hatgyweirio yn Abertawe

Bydd y prif ffyrdd i ganol dinas Abertawe'n cael eu hailwynebu fel rhan o gynlluniau cynnal a chadw priffyrdd diweddaraf Cyngor Abertawe.

mumbles road resurfacing

Mae'r cyngor newydd gyhoeddi ei amserlen ar gyfer cynlluniau ailwynebu ffyrdd ar gyfer 2025/26, sy'n cynnwys uwchraddio mwy na 30 o ffyrdd yn gyfan gwbl neu'n rhannol.

Bydd dau brif lwybr sydd wedi'u cynnwys yn y cynlluniau uwchraddio yn targedu rhannau o Carmarthen Road a Fabian Way.

Bydd gwelliannau pellach i'w cwblhau rhwng nawr a mis Mawrth 2026 ar hyd Neath Road, Woodfield Street yn Nhreforys, Mill Street yn Nhregŵyr, West Cross Avenue, Gors Avenue a Birchgrove Road.

Mae gwaith ar Mumbles Road, sydd wedi'i gwblhau'n ddiweddar, hefyd ar y rhestr o ffyrdd sydd newydd ei chyhoeddi. Roedd y gwaith uwchraddio'n cynnwys rhan newydd o'r ffordd rhwng y West Cross Inn a Norton Road.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae ein cynlluniau gwella priffyrdd ar gyfer 2025/26 yn cynnwys gwaith uwchraddio sylweddol i rannau poblogaidd o ffyrdd ledled y ddinas sy'n cael eu defnyddio'n helaeth.

"Mae'r ffyrdd sydd wedi'u clustnodi ar gyfer cynlluniau ailwynebu llawn wedi cael blaenoriaeth yn seiliedig ar archwiliadau priffyrdd rheolaidd ac wedi cael eu hasesu fel rhai y mae angen eu hatgyweirio yn ystod y deuddeg mis nesaf.

"Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd llawer o'r gwaith yn cael ei gwblhau gyda'r hwyr er mwyn tarfu ar yrwyr cyn lleied â phosib."

Yn ogystal â chwblhau cynlluniau ailwynebu mawr, bydd criwiau cynnal a chadw priffyrdd y cyngor hefyd yn cwblhau rhaglenni atgyweirio ffyrdd eraill, gyda chyfres o gynlluniau atgyweirio bach sy'n targedu rhannau llai o ffyrdd.

Bydd y timau tyllau yn y ffordd hefyd yn ymateb i adroddiadau gan y cyhoedd gyda'r nod o'u hatgyweirio o fewn 48 awr.

Yn 2024/25, gwnaeth timau cynnal a chadw priffyrdd y cyngor lenwi mwy na 5,000 o dyllau yn y ffyrdd ac ailwynebu prif ffyrdd am bellter o 13km.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Gweithiodd ein timau cynnal a chadw'n galed iawn y llynedd ac rydym yn disgwyl yr un ymrwymiad eleni. Mae'r cyhoedd hefyd wedi gwneud cyfraniad drwy roi gwybod i'r cyngor am dyllau yn y ffyrdd a diffygion eraill fel y gallwn ymateb cyn gynted â phosib."

I ddarganfod pa ffyrdd sydd ar fin cael eu hatgyweirio yn 2025/26, ewch i https://www.abertawe.gov.uk/ailwynebuffyrdd

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Mai 2025