Prentis Swyddog Cyflenwi TGCh (dyddiad cau: 23/06/25)
Blwyddyn 1 £18,640 - Blwyddyn 2 £22,110. Dechreuwch eich gyrfa ym maes gweinyddu busnes a chaffael gyda Chyngor Abertawe. Rydym yn cynnig swydd 2 flynedd fel Prentis Swyddog Cyflenwi TGCh.
Teitl y swydd: Prentis Swyddog Cyflenwi TGCh
Rhif y swydd: CS.73738
Cyflog: Blwyddyn 1 £18,640 - Blwyddyn 2 £22,110
Disgrifiad swydd: Swyddog Cyflawni TGCh Prentis (CS.73738) Disgrifiad swydd (PDF, 257 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.73738
Dyddiad cau: 11.45pm, 23 Mehefin 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae cyfle gyrfa eithriadol ar gael yn ein cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer prentis Lefel 3. Mae'r swydd hon yn nhîm Rhaglenni a Chaffael y Cyngor o fewn Gwasanaethau Digidol. Mae Cyngor Abertawe yn chwilio am Swyddog Cyflenwi TGCh i ymuno â'n tîm. Mae'r rôl yn cynnwys darparu swyddogaethau caffael TGCh ar gyfer y Cyngor cyfan a darparu cymorth busnes hanfodol i'n Gwasanaethau Digidol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau gweithdrefn contract y Cyngor trwy gynnig cyngor, arweiniad a chydlynu ymdrechion gydag adrannau eraill y cyngor, cydweithwyr digidol, ysgolion, a chyflenwyr allanol.
Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb mewn caffael a chymorth gweinyddol gyffredinol. Dylent feddu ar sgiliau cyfathrebu a digidol rhagorol, gallu gweithio fel rhan o dîm, a rheoli tasgau lluosog ar yr un pryd.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant a threfnus gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol i gyflawni'r rôl hon.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol