Toglo gwelededd dewislen symudol

Prentis Cymorth Technegol (dyddiad cau: 23/06/25)

Blwyddyn 1 £18,640 - Blwyddyn 2 £22,110. Dechreuwch eich gyrfa dechnoleg gyda Chyngor Abertawe! Ymunwch â ni fel Prentis Cymorth Technegol ac ennill profiad o fewn Cymorth Pen-desg, Gweinydd a Rhwydwaith.

Teitl y swydd: Prentis Cymorth Technegol
Rhif y swydd: CS.73739
Cyflog: Blwyddyn 1 £18,640 - Blwyddyn 2 £22,110
Disgrifiad swydd: Prentis Cymorth Technegol (CS.73739 ) Disgrifiad Swydd (PDF, 259 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.73739

Dyddiad cau: 11.45pm, 23 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn ein cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer tri phrentis Lefel 3 yn Nhimau Gwasanaethau Digidol Cymorth Technegol y Cyngor.  Mae'r Cyngor yn gweithredu strategaeth Gwasanaethau Digidol uchelgeisiol. 

Bydd y prentisiaid yn rhan o'r timau sy'n gyfrifol am ddarparu cymorth caledwedd a meddalwedd ochr y ddesg, cymorth gweinydd a chefnogaeth rhwydwaith i Gyngor Abertawe. Bydd y swyddi wedi'u lleoli yn ein swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig a bydd disgwyl iddynt weithio'n hyblyg a byddant yn adrodd i arweinwyr y tîm.

Bydd y prentisiaid yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau i gefnogi gwasanaeth digidol y Cyngor a byddant yn casglu dealltwriaeth o wasanaethau TGCh eraill y Cyngor.

Dylai ymgeiswyr fod â diddordeb brwd mewn datblygu gyrfa mewn TG.  Dylai fod â sgiliau rhyngbersonol da i ddatblygu perthnasoedd â chwsmeriaid.  Dylai fod yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig ac yn gallu dogfennu gweithgareddau gwaith a datblygu.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Mai 2025