Coedwigwr (dyddiad cau: 10/06/25)
£27,269 i £30,060 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn yr Adran Gwasanaethau Diwylliannol, Parciau a Glanhau i goedwigwr cymwysedig. Mae'r Uned Gwasanaethau Coed yn chwilio am lawfeddyg coed hyfforddedig ac ardystiedig a all weithio fel rhan o dîm mwy ar bob agwedd ar goedwigaeth ymarferol.
Teitl y swydd: Coedwigwr
Rhif y swydd: PL.5412
Cyflog: £27,269 i £30,060 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Coedwigwr (PL.5412) Disgrifiad swydd (PDF, 254 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y sywdd PL.5412
Dyddiad cau: 11.45pm, 10 Mehefin 2025
Mwy o wybodaeth
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd ag ystod lawn o waith coedwigaeth diddorol a heriol ar draws parciau, priffyrdd, ysgolion, mynwentydd, coetiroedd, gwarchodfeydd natur, a stoc tai cyngor y Cyngor.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm proffesiynol sy'n ymgymryd â gofal coed arbenigol a rheoli coetir gan ddefnyddio ystod eang o offer a dulliau modern. Mae'r swyddi hyn yn cynnig cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth o fewn tîm sy'n ymrwymedig i safonau uchel wrth reoli coed.
Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar drwydded yrru lawn; yn ddelfrydol, gyda hawl C1 + E Mae
gweithio mewn llywodraeth leol yn brofiad boddhaol a gwerth chweil iawn mewn sawl ffordd. Yn gyfnewid am y cyfraniad rydych chi'n ei wneud i'n cymuned leol, byddwch yn mwynhau ystod ardderchog o fudd-daliadau.
Oriau gwaith dan gontract yw 37 yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhaid i ymgeiswyr hefyd fod ar gael i gymryd rhan yn y rota galw allan brys y tu allan i oriau.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a'r fanyleb person am ragor o fanylion, cyn i chi wneud cais am y rôl hon.
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol