Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwefru cerbydau trydan ar y stryd i'w dreialu yn Abertawe

Mae perchnogion cerbydau trydan yn Abertawe nad ydynt yn gallu parcio oddi ar y stryd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn prawf a fyddai'n eu galluogi i wefru eu cerbydau ar eu stryd.

on street EV charging

Mae Cyngor Abertawe, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cynnig cyfle i hyd at ddeg eiddo gymryd rhan mewn prawf i brofi system gwefru ar y stryd newydd.

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i berchnogion cerbydau trydan sy'n byw yn Abertawe ond nad oes ganddynt le i barcio oddi ar y stryd, ddefnyddio cyfleusterau gwefru mewn meysydd parcio cyhoeddus neu feysydd parcio archfarchnadoedd lleol.

Diben y prawf diweddaraf fydd gweld a fydd hi'n bosib i breswylwyr wefru eu cerbydau ar y stryd.

Mae'r cyngor yn gweithio ochr yn ochr â chwmni o'r enw Kerbo Charge, sydd wedi datblygu datrysiad gwefru ar y stryd sy'n cynnwys creu sianeli yn y droedffordd y tu allan i gartrefi pobl. Yna gellir cysylltu ceblau gwefru â chartrefi preswylwyr a'u rhoi i mewn i'r sianel ar draws y palmant heb greu perygl baglu.

Bydd uchafswm o ddeg preswylydd yn gallu cymryd rhan yn y prawf a bydd y rheini sy'n cymryd rhan yn cael eu monitro dros gyfnod o 12 mis.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Gyda phoblogrwydd cerbydau trydan a hybrid yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gwyddom fod angen i ni edrych ar ffyrdd newydd arloesol i alluogi'r holl berchnogion ceir trydan i wefru eu ceir yn hawdd.

"I breswylwyr nad oes ganddynt ddreif neu le i barcio oddi ar y stryd yn eu cartrefi, gall hyn fod yn anoddach.

"Fel cyngor, rydym wedi gosod pwyntiau gwefru cyflym mewn llawer o'n meysydd parcio sy'n eiddo i'n cyngor a bydd y gwaith hwn yn parhau.

"Yn ogystal â'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni yn ein meysydd parcio, mae angen i ni edrych ar isadeiledd ar y stryd a sut y gallwn gyflwyno hyn i'n preswylwyr.

"Bydd y prawf hwn yn rhoi cyfle i ni weithio gyda phreswylwyr a Kerbo Charge a phrofi'r dull hwn o wefru ar y stryd."

Dylai preswylwyr â diddordeb mewn cymryd rhan fynd i'r dudalen cyflwyno cais ar-lein a sicrhau eu bod yn bodloni'r meini prawf sydd wedi'u rhestru ar gyfer y prawf. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 15 Mehefin.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Mai 2025