Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Cymorth Dydd 1-1 (dyddiad cau: 13/06/25)

£25,584 - £26,409 y flwyddyn pro rata. Gweithiwr Cymorth Dydd -18 awr yr wythnos, yn cefnogi merch sydd angen cymorth ar sail 1-1 i gwrdd â'i chanlyniadau lles personol a chymdeithasol yng Ngwasanaeth Dydd Fforestfach. Mae hon yn swydd dros dro i ddechrau am 1 flwyddyn.

Teitl y swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd 1-1
Rhif y swydd: SS.73695 
Cyflog: £25,584 - £26,409 y flwyddyn pro rata
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Gweithiwr Cymorth Dydd 1-1 SS.73695 (PDF, 269 KB) 
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd SS.73695

Dyddiad cau: 11.45pm, 13 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth

Ydych chi'n chwilio am gyfle newydd cyffrous o fewn gofal cymdeithasol?
Edrychwch yma os ydych chi a gofynnwch yr ychydig gwestiynau hyn i chi'ch hun?

  • Ydych chi'n berson cymhellol, caredig, deallus, brwdfrydig a gofalgar?
  • Ydych chi'n wrandäwr da gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol?
  • Ydych chi'n gallu cefnogi person i gyflawni eu canlyniadau a'u nodau personol?
  • Allwch chi weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person?
  • Oes gennych chi brofiad o gefnogi eraill mewn gofal personol?
  • Ydych chi'n gallu dangos dealltwriaeth dda o werthoedd gofal cymdeithasol?
  • Ydych chi wedi cael profiad o gefnogi pobl ag Anableddau Dysgu?
  • Oes gennych chi ddull hyblyg? 
  • Oes gennych NVQ/QCF lefel 2 mewn Gofal?
  • Ydych chi'n barod i weithio tuag at ennill cymhwyster mewn gofal cymdeithasol?
  • Oes gennych chi ddull hyblyg?
  • Allwch chi weithio o dan gyfarwyddyd rheolwr y tîm, a dangos parodrwydd i gefnogi os oes angen gwneud hynny mewn meysydd eraill o'r gwasanaeth?
  • Allwch chi weithio gydag eraill, gan gynnwys teuluoedd gweithwyr proffesiynol eraill ac asiantaethau?
  • Ydych chi'n arloesol? 

Ydych chi'n meddwl bod hyn yn swnio fel chi? 
Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio yng Ngwasanaeth Dydd Fforestfach.
Rydym yn edrych i gyflogi 1 x 18 awr yr wythnos, gweithiwr Cymorth Dydd i gefnogi unigolyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, tra'n hyrwyddo a chefnogi canlyniadau cymdeithasol a lles y person.

Dyma sut y byddwn yn eich helpu i wneud gwaith gwych a dyma ychydig o bethau a allai fod yn bwysig i chi? 

  • Byddwch yn rhan o dîm deinamig.
  • Byddwch yn cael eich cefnogi i wneud yr hyfforddiant cywir, i ennill y ddealltwriaeth, y wybodaeth a'r sgiliau perthnasol ar gyfer y rôl.
  • Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad rheolaidd i'ch helpu ar hyd y ffordd, gan gynnig cefnogaeth ac anogaeth i chi o fewn eich rôl newydd a chyfle i drafod agweddau ar y rôl gyda'ch rheolwr.
  • Byddwch yn gweithio 3 diwrnod yr wythnos - i'w drafod mewn cyfweliad.
  • Mae buddion eraill yn cynnwys cyfradd cyflog ardderchog a hawl gwyliau blynyddol ardderchog.

Os hoffech drafod y rôl, bydd y Rheolwyr Anwen Rosser neu Georgina Davies yn gallu rhoi dealltwriaeth dda i chi o'r hyn y mae'r rôl yn ei olygu.  Ffoniwch - Ffôn:- 01792 588614
 

Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.


 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Mai 2025