Toglo gwelededd dewislen symudol

Glanhawr Marchnad Abertawe (dyddiad cau: 17/06/25)

£24,027 y flwyddyn pro rata (12.45 yr awr). Mae'r adran glanhau eiddo / cyfleusterau corfforaethol yn edrych i recriwtio person dibynadwy a hyblyg i'w thîm glanhau.

Teitl y swydd: Glanhawr Marchnad Abertawe
Rhif y swydd:  PL.67408
Cyflog: £24,027 y flwyddyn pro rata (12.45 yr awr)
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Glanhawr Marchnad Abertawe PL.67408 (PDF, 268 KB) 
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd PL.67408

Dyddiad cau: 11.45pm, 17 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae'r swydd wedi'i lleoli ym Marchnad Abertawe. Fel rhan o'r tîm, bydd disgwyl i chi gynnal pob ardal o'r safle i'r safonau uchel sydd eisoes ar waith gan ddefnyddio deunyddiau ac offer priodol. Mae'r swydd ar gyfer 10 awr yr wythnos yn gweithio o ddydd Llun i ddydd Sadwrn gydag un diwrnod rota i ffwrdd yn ystod yr wythnos.
 

Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Mehefin 2025