Swyddog Refeniw X 2 (dyddiad cau: 17/06/25)
£27,269 - £30,060 y flwyddyn. Mae Refeniw a Budd-daliadau yn chwilio am ddau berson sy'n frwdfrydig, yn ddibynadwy, yn hynod gymhellol ac yn gyfathrebwyr rhagorol i ymuno â'r tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid prysur iawn.
Teitl y swydd: Swyddog Refeniw
Rhif y swydd: FN.68041-V1
Cyflog: £27,269 - £30,060 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Refeniw (FN.68041-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 252 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Cyllid
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd FN.68041-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 17 Mehefin 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm prysur iawn o fewn y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau.
Mae gennym ddwy swydd ar gael. Bydd deiliaid y swydd yn gyfrifol am ddelio ag ymholiadau cwsmeriaid a dderbynnir wyneb yn wyneb, dros y ffôn a thrwy e-bost sy'n ymwneud â phob agwedd ar weinyddu'r Dreth Gyngor gan gynnwys:
- Penderfynu ar atebolrwydd i dalu'r dreth gyngor
- Gostyngiadau ac eithriadau
- Premiymau'r dreth gyngor
- Casglu'r dreth gyngor
- Adennill treth gyngor hwyr
Rydym yn chwilio am bobl sy'n frwdfrydig, yn ddibynadwy, â chymhelliant uchel ac sydd â sgiliau cyfathrebu a rheoli amser rhagorol.
Mae'r tîm wedi'i leoli yn y Ganolfan Ddinesig ar hyn o bryd a bydd yn symud i'r Storfa ar ôl ei agor.
Oherwydd natur y rôl, mae'r swydd hon yn seiliedig yn swyddfa yn bennaf, fodd bynnag, bydd rhai cyfleoedd ar gyfer gweithio gartref yn cael eu hystyried unwaith y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i sefydlu yn ei rôl, yn amodol ar anghenion busnes.
Mae'r swyddi yn swyddi parhaol, llawn amser (37 awr)
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol