Swyddog Gweithredu Cynllunio Prosiectau Ysgolion (dyddiad cau: 18/06/25)
£35,235 - £38,626 pro rata y flwyddyn. Cyfle gwerth chweil i arwain a rheoli cyflawni prosiectau cyfalaf ysgolion a chefnogi cyflawni prosiectau mawr er budd ein dysgwyr, cymunedau ysgolion, a chenedlaethau'r dyfodol. Mae hon yn swydd ran-amser, yn gweithio dau ddiwrnod llawn yr wythnos (sy'n cyfateb i 14 awr a 48 munud).
Teitl y swydd: Swyddog Gweithredu Cynllunio Prosiectau Ysgol
Rhif y swydd: ED.66068-V1
Cyflog: £35,235 - £38,626 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiectau Ysgol (ED.66068-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 232 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.66068-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 18 Mehefin 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn dymuno penodi Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiect Ysgol ar sail rhannu swyddi i'w Tîm Cyfalaf. Bydd deiliad y swydd yn ystwyth, yn gweithio gartref, neu mewn gofod gweithio ystwyth yn Neuadd y Dref yn ôl anghenion busnes, ac yn mynychu ysgolion a safleoedd pan fo angen.
Bydd deiliad y swydd yn aelod o'r Grŵp Cyflawni a bydd ganddo gyfrifoldeb llawn am arweinyddiaeth, rheoli, cynllunio adnoddau, a chyflawni prosiectau cyfalaf ar raddfa lai a darparu cymorth prosiect ar gyfer prosiectau mawr.
Mae'r rôl yn un amrywiol ac yn gofyn am ymagwedd hyblyg at ddyletswyddau i gynorthwyo i reoli asedau a gwella ystâd yr ysgol. Bydd deiliad y swydd yn gallu dangos llygad da am fanylion, galluoedd cynllunio a rheoli prosiect effeithiol a sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol