Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweinydd Tîm y Dreth Gyngor - Rheolwr (dyddiad cau: 18/06/25)

£39,513 - £43,693 y flwyddyn. Mae'r Adran Refeniw yn edrych i recriwtio Arweinydd / Rheolwr tîm Treth y Cyngor gyda phrofiad o weinyddu a chasglu treth y Cyngor. Mae hon yn swydd llawn amser (37 awr).

Teitl y swydd: Arweinydd Tîm y Dreth Gyngor - Rheolwr
Rhif y swydd: FN.73095
Cyflog: £39,513 - £43,693 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Arweinydd-Rheolwr Tîm y Dreth Gyngor (FN.73095) Disgrifiad Swydd (PDF, 262 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Cyllid

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd FN.73095

Dyddiad cau: 11.45pm, 18 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth


Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno ac arwain tîm prysur o fewn y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau.  

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli un o dri Thîm Treth y Cyngor o ddydd i ddydd a bydd yn gyfrifol am y swyddogaethau gweinyddu, bilio, casglu ac adfer.

Mae'r rôl yn gofyn am wybodaeth ragorol o ddeddfwriaeth a chyfraith achos y Dreth Gyngor a'r gallu i gymhwyso'r ddeddfwriaeth berthnasol.  

Rydym yn chwilio am rywun sy'n frwdfrydig, llawn cymhelliant a threfnus, sydd â sgiliau cyfathrebu a rheoli amser rhagorol ac sy'n gallu blaenoriaethu gwaith.  Arwain a gweithio o fewn tîm ac adeiladu, datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith da a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.  

Mae'r swydd yn seiliedig yn y swyddfa yn bennaf, gyda chyfleoedd i weithio gartref unwaith y bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus wedi'u sefydlu yn eu rôl.

Mae gwasanaeth y Dreth Gyngor yn gweinyddu ac yn casglu'r dreth gyngor ar gyfer dros 115,000 o breswylfeydd yn Abertawe.  Mae'r dreth hon yn mynd tuag at dalu am y gwasanaethau hanfodol y mae'r Cyngor yn eu darparu.  

Mae'r swydd yn llawn amser (37 awr) 

Os hoffech ymuno â'n tîm prysur a deinamig ac eisiau trafodaeth bellach ar y rôl, cysylltwch â Paula Lewis drwy e-bost yn Paula.Lewis@swansea.gov.uk

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Mehefin 2025