Ysgol Gynradd Cadle : Cynorthwyydd Addysgu contract 1 flwyddyn dros dro x1
Dyddiad cau: 23/06/25)(12pm) (1 swydd) Gradd 5 (Lefel 3) Cyfathrebu Cymdeithasol ac Anawsterau Dysgu STF. 32.5 awr yr wythnos. Cyflog Cyfredol: £25,584.00 - £26,409.00 (pro-rata) Dyddiad dechrau: 1 Medi 2025
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Cadle yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu Gradd 5 ardderchog i weithio o fewn Cyfathrebu Cymdeithasol ac Anawsterau Dysgu STF.
Dylai ymgeiswyr fod yn gymwys i NVQ Lefel 3 neu gyfwerth a bod â phrofiad blaenorol o weithio ym maes addysg gynradd. Mae profiad o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol yn ddymunol.
Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd:-
- Ymroddedig ac angerddol am ddysgu ac addysgu.
- Chwaraewr tîm rhagorol gydag agwedd gadarnhaol.
- Yn cydymdeimlo ac yn gefnogol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Yn gallu meithrin, ysbrydoli ac ysgogi disgyblion.
- Yn gallu gweithio fel rhan o dîm i gyflawni'r gorau i bob disgybl.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad datgelu uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn dechrau cyflogaeth.
Ebost: cadle.primaryschool@swansea-edunet.gov.uk
Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 (PDF, 133 KB)
Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u cwblhau i Bennaeth yr ysgol.
Dyddiad Cau: Dydd Llun 23 Mehefin 12pm
Cyfweliadau: Dydd Mercher 2 Gorffennaf
Dyddiad Dechrau: Medi 1 2025
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol