Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Cadle : Cynorthwyydd Addysgu contract 1 flwyddyn dros dro

(dyddiad cau: 30/06/25)(12pm) (1 swydd) Gradd 4 (Lefel 2) Cyfathrebu Cymdeithasol ac Anawsterau Dysgu STF. 22.5 awr yr wythnos. Cyflog Cyfredol: £24,790.00 - £25,183.00 (pro-rata) Dyddiad dechrau: 1 Medi 2025

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Cadle yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu Gradd 4 ardderchog i weithio o fewn Cyfathrebu Cymdeithasol ac Anawsterau Dysgu.

Dylai ymgeiswyr fod yn gymwys i NVQ Lefel 2 neu gyfwerth a bod â phrofiad blaenorol o weithio ym maes addysg gynradd.  Mae profiad o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol yn ddymunol.

Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd:-

  • Ymroddedig ac angerddol am ddysgu ac addysgu.
  • Chwaraewr tîm rhagorol gydag agwedd gadarnhaol.
  • Yn cydymdeimlo ac yn gefnogol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Yn gallu meithrin, ysbrydoli ac ysgogi disgyblion.
  • Yn gallu gweithio fel rhan o dîm i gyflawni'r gorau i bob disgybl.

Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad datgelu uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn dechrau cyflogaeth.
Ebost: cadle.primaryschool@swansea-edunet.gov.uk 

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 (PDF, 134 KB)

Dylid dychwelyd ffurflenni wedi'u cwblhau i Bennaeth yr ysgol.
Dyddiad Cau: Dydd Llun 30 Mehefin 12pm
Cyfweliadau: Dydd Llun 7 Gorffennaf
Dyddiad dechrau: 1 Medi 2025


Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mehefin 2025