Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 18/06/25)
Gradd 8 £35,235 - £38,626 y flwyddyn / Gradd 9 £39,513 - £43,693 y flwyddyn. Croesewir ceisiadau ar gyfer swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn y Tîm Adolygu ac Ailasesu. Gradd 8 ar gyfer Newydd gymhwyso a Gradd 9 ar gyfer Gweithiwr Cymdeithasol cymwysedig.
Teitl y swydd: Gweithiwr Cymdeithasol
Rhif y swydd: SS.64120-V2
Cyflog: Gradd 8 £35,235 - £38,626 y flwyddyn / Gradd 9 £39,513 - £43,693 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Cymdeithasol (SS.64120-V2) Disgrifiad Swydd (PDF, 261 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.64120-V2
Dyddiad cau: 11.45pm, 18 Mehefin 2025
Rhagor o wybodaeth
Croesewir ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol cymwys i ymuno â'r Tîm Adolygu ac Ailasesu am gyfnod dros dro o ddwy flynedd.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â'r Tîm Adolygu ac Ailasesu a ddatblygwyd yn ddiweddar. Mae ein Tîm yn gweithio gydag oedolion 18+ oed sy'n derbyn gwasanaethau cymorth a gomisiynwyd gan yr Awdurdod Lleol. Mae gwaith y Tîm yn eang. Mae'n amrywio o gwblhau Adolygiadau Statudol blynyddol arfaethedig i Ailasesiadau llawn yn dilyn newidiadau sylweddol ym mywydau pobl. Mae'r Tîm yn gefnogol gan gynnig cefnogaeth rhagorol i gymheiriaid a rheolwyr.
Ynglŷn â'r rôl
Mae ein tîm yn defnyddio'r Fframwaith Cyfathrebu Cydweithredol sy'n seiliedig ar gryfder i helpu pobl a'u teuluoedd i nodi'r hyn sy'n bwysig iddynt, gan roi eu llais, eu dewis a'u rheolaeth iddynt. Ein nod yw grymuso a hyrwyddo annibyniaeth i unigolion, gan adeiladu ar eu cryfder a'u canlyniadau personol ystyrlon.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n llawn cymhelliant, brwdfrydig ac ymroddedig i wasanaethau cymdeithasol. Byddwch yn angerddol am wasanaethau cymdeithasol sy'n seiliedig ar berthynas a darparu'r canlyniadau gorau posibl i unigolion yn ein cymunedau
Mae gennym swyddfa yn Neuadd y Dref, Abertawe ond mae'n treulio llawer o'r amser yn gweithio yn y Gymuned.
Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi
Rydym yn Dîm newydd sy'n gyfeillgar, cefnogol a chroesawgar.
Rydym wedi ymrwymo i'ch datblygiad proffesiynol, a'ch lles trwy oruchwyliaeth reolaidd. Yn weithredol bydd cefnogaeth ac arweiniad ar gael bob amser.
Trwy ymuno â'n tîm, rydym am i chi fod yn falch o'ch cyflawniadau, ac yn falch o wneud gwahaniaeth i unigolion a'u teuluoedd.
Mae manteision eraill gweithio gyda ni yn cynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Gweithio hybrid
- Lwfans gwyliau hael
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Pensiwn ardderchog gyda Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Mynediad i'r cynllun Beicio i'r Gwaith
- Gostyngiadau staff
- Aelodaeth canolfan hamdden a champfa ostyngol
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau ffurflen gais lawn fel rhan o'n proses recriwtio. Eisiau gofyn cwestiwn i ni? Os hoffech drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Jackie Turner am ragor o wybodaeth.
E-bost - Jackie.turner@swansea.gov.uk Ffôn - 07827 307949
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol