Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynorthwyydd Blaen y Tŷ (dyddiad cau: 19/06/25)

£24,790 - £25,183 y flwyddyn pro rata. Mae Canolfan Dylan Thomas yn chwilio am unigolyn cyfeillgar a brwdfrydig i ymuno â'i thîm blaen tŷ. 7.5 awr yr wythnos ar gontract cyfnod penodol dros dro am 1 flwyddyn. Mae'r rôl hon yn cynnwys gwaith penwythnos rheolaidd.

Teitl y post: Cynorthwyydd Blaen y Tŷ
Rhif y swydd:  PL.64147-V1
Cyflog: £24,790 - £25,183 y flwyddyn pro rata
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd - Cynorthwyydd Blaen y Tŷ PL.64147-V1 (PDF, 250 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd PL.64147-V1

Dyddiad cau: 11.45pm, 19 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth

Bydd deiliad y swydd yn hyblyg, yn ymgymryd â gweithgareddau gofal cwsmeriaid, diogelwch, glanhau a manwerthu, ac yn cyfrannu at ethos y Gwasanaethau Diwylliannol o ddarparu gwasanaeth cyfeillgar, addysgiadol, effeithlon a phroffesiynol i bob defnyddiwr. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac yn hyderus wrth ddelio â'r ystod amrywiol o ymwelwyr yr ydym yn eu croesawu i Arddangosfa Dylan Thomas a'i rhaglenni dysgu ac ymgysylltu. 

Mae'r rôl hon yn cynnwys gwaith rheolaidd ar y penwythnos ac achlysurol gyda'r nos.
 

Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Gellir cyflwyno ceisiadau am swyddi yn Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Mehefin 2025