Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr : Swydd Cynorthwyydd Addysgu - Llawn amser (27.5awr) - Parhaol

(dyddiad cau: 25/06/25)(12hanner dydd) Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu brwdfrydig ac ymroddgar i ymuno â staff yr ysgol hapus hon. Gwahoddir ceisiadau am y swyddi ganlynol i ddechrau yn Medi 2025.

Prif ddiben y swydd fydd i ymgymryd â rôl cynorthwyydd addysgu 
2 Swydd Cynorthwyydd Addysgu   
Cyflog : Yn ddibynol ar brofiad ac i'w drafod 

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:

  • fod yn frwd dros addysg Gymraeg ac yn gallu siarad Cymraeg.
  • bod yn unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant sy'n angerddol am gefnogi addysgu a lles disgyblion o dan eu gofal ac ymrwymo i addysg gynhwysol i bob disgybl.
  • weithio fel rhan o dîm ymroddgar.
  • feddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd o safon da a fydd yn herio ac yn ysgogi disgyblion.
  • ddatblygu amgylchedd ddysgu symbylol a chyffrous.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i NVQ lefel 3 neu gyfwerth o ran profiad.  I ymgeiswyr addas bydd hyfforddiant ar gael iddynt yn y gweithle. 

Gweler y disgrifiad swydd a manyldeb person am wybodaeth bellach.

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

YSGOL GYMRAEG BRYN-Y-MôR - Swydd ddisgrifiad - Cynorthwy-ydd Addysgu (PDF, 161 KB)

Danfonwch eich llythyron cais i'r Ysgol naill ai drwy'r post neu drwy e bost yr Ysgol YGG.Brynymor@Swansea-edunet.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 25/06/25 am 12pm

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch i https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Diogelu: Mae'r Awdurdod yn unol â'r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.  Mae'r Awdurdod yn disgwyl i'r holl staff ymgymryd ag hyfforddiant diogelu gorfodol a bod yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am warchod plant ac oedolion.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Mae'r swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd gael y lefel datgelu GDG fel y nodir isod: Cais am Ddatgeliad GDG Manwl

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Mehefin 2025