Cynorthwyydd Mynediad a Gwybodaeth (dyddiad cau: 20/06/25)
£27,269 - £30,060 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer 1 x Cynorthwyydd Mynediad a Gwybodaeth Dros Dro llawn amser (37 awr) (tan 31 Mawrth 2027)
Teitl y swydd: Cynorthwyydd Mynediad a Gwybodaeth
Rhif y swydd: SS.65063-V1
Cyflog: £27,269 - £30,060 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Cynorthwyydd Mynediad a Gwybodaeth (SS.65063-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 264 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.65063-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 20 Mehefin 2025
Rhagor o wybodaeth
Y Pwynt Mynediad Cyffredin yw'r pwynt cyswllt cyntaf o fewn Gwasanaethau Oedolion. Rôl y Cynorthwywyr Mynediad a Gwybodaeth yw darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i unigolion Abertawe. Bydd y rôl yn cynnwys ateb galwadau ffôn ac ymholiadau e-bost/ar-lein. Gweithio mewn ffordd ataliol i arwyddo post i wasanaethau cymunedol priodol a chreu atgyfeiriadau gan ddefnyddio WCCIS.
Mae'r rôl yn cynnwys gweithio gydag unigolion, teuluoedd, grwpiau a chymunedau i alluogi'r canlyniadau gorau posibl i hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol.
Mae ein dull yn y tîm yn dilyn Egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Sy'n canolbwyntio ar weithio gyda phobl, mewn partneriaeth, i ddiwallu anghenion y cleient ac i atal problemau rhag cynyddu.
Yn Abertawe, ein nod yw darparu'r gefnogaeth gywir i Oedolion a'u Gofalwyr ar yr adeg iawn gan y person iawn.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol