Gweithiwr Cymorth Dydd - 5 Awr (dyddiad cau: 23/06/25)
£25,584 - £26,409 pro rata y flwyddyn. (Gradd 5). Mae swydd wag wedi codi ar gyfer Gweithiwr Cymorth Dydd yng Ngwasanaeth Dydd Anghenion Arbennig Birchgrove am 5 awr yr wythnos.
Teitl y swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd
Rhif y swydd: SS.73714
Cyflog: £25,584 - £26,409 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd (SS.73714) Disgrifiad Swydd (PDF, 262 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.73714
Dyddiad cau: 11.45pm, 23 Mehefin 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae prif ddyletswyddau'r rôl yn cynnwys cefnogi oedolion ag anableddau dysgu/colli synhwyraidd i gyflawni eu canlyniadau unigol a darparu cymorth personol ac ymarferol i'r defnyddiwr gwasanaeth a / neu asesu, cydlynu a chymryd camau ar gynlluniau gofal a/neu les i ddiwallu anghenion cymorth.
Mae swyddogaethau allweddol y swydd yn cynnwys:
- Gweithio tuag at alluogi'r defnyddiwr gwasanaeth i ddod mor annibynnol â phosibl wrth ddefnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael.
- Trin pob defnyddiwr gwasanaeth fel unigolion gwerthfawr y dylid eu parchu fel cyd-ddinasyddion o werth ac urddas, gyda hawliau cyfartal i le llawn mewn cymdeithas.
- Mynychu cyfarfodydd adolygu defnyddwyr gwasanaeth a chymryd rhan lawn mewn rhannu adborth gwrthrychol ynghylch cynnydd a wnaed gan y defnyddiwr gwasanaeth.
- Gweithio'n effeithiol gyda chydweithwyr proffesiynol, teuluoedd a gofalwyr.
- Cymryd rhan mewn datblygu a hyfforddiant staff.
Os ydych chi'n teimlo bod gennych y sgiliau, y galluoedd a'r rhinweddau i ymgymryd â'r rôl hon a bod gennych ddiddordeb mewn ymgeisio, cysylltwch â Lorraine.Howells@swansea.gov.uk am drafodaeth anffurfiol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol