Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Cymdeithasol X 3 (dyddiad cau: 23/06/25)

£35,235 - £38,626 y flwyddyn (Gradd 8) / £39,513 - £43,693 y flwyddyn (Gradd). Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cymwys a chofrestredig i ymuno â Phwynt Mynediad Cyffredin y Gwasanaethau Oedolion [PAC] MDT/Tîm Ymateb Cyflym a Thîm Asesu PAC am 6 mis.

Teitl y swydd: Gweithiwr Cymdeithasol X 3
Rhif y swydd: SS.64204-V4
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn (Gradd 8) / £39,513 - £43,693 y flwyddyn (Gradd 9)
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Cymdeithasol (SS.64204-V4) Disgrifiad Swydd (PDF, 261 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.64204-V4

Dyddiad cau: 11.45pm, 23 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae cyfle wedi codi i weithwyr cymdeithasol cymwys a chofrestredig ymuno â Thîm MDT/Ymateb Cyflym y PAC a Thîm Asesu'r PAC am 6 mis. Mae'r timau'n cynnal asesiadau cymhwysedd gofal cymdeithasol statudol cychwynnol gydag oedolion sy'n byw yn Abertawe ac yn cynnig cymorth rhagorol i gymheiriaid a rheolwyr mewn amgylchedd ataliol ac amlddisgyblaethol. Er bod systemau a phrosesau wedi'u sefydlu'n dda, rydym yn hyrwyddo diwylliant cyd-gefnogol lle mae cwestiynau'n cael eu croesawu, ac atebion yn cael eu canfod trwy gydweithredu a gwaith tîm.

Byddai'n ofynnol i'r deiliaid swyddi newydd weithio'n effeithlon ac yn unol â deddfwriaeth berthnasol i ddiogelu pobl sydd mewn perygl o niwed a chychwyn darpariaeth gwasanaeth statudol i'r rhai sy'n gymwys. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â gwybodaeth a phrofiad o ymarfer gwaith cymdeithasol statudol rheng flaen, sgiliau trefnu rhagorol ac angerdd am wneud gwahaniaeth. Byddai'r swyddi hyn yn addas i ymarferwyr gwaith cymdeithasol sydd newydd gymhwyso a phrofiadol, ac edrychwn ymlaen at chi ymuno â ni!

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Mehefin 2025