Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithredwr Mynwent ac Amlosgfa (dyddiad cau: 24/06/25)

£27,269 - £30,060 y flwyddyn. Rydym yn ceisio penodi Gweithredwr Mynwent / Amlosgfa i ymuno â'r tîm Gwasanaethau Profedigaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo yn gweithredu amlosgfa Abertawe a saith mynwent o ddydd i ddydd, gan gynnwys goruchwylio angladdau.

Teitl y swydd: Gweithredol Mynwent ac Amlosgfa
Rhif y swydd: PL.67859
Cyflog: £27,269 - £30,060 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithredwr Mynwent ac Amlosgfa (PL.67859) Disgrifiad Swydd (PDF, 251 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.67859

Dyddiad cau: 11.45pm, 24 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn ceisio penodi Gweithredwr Mynwent / Amlosgfa i ymuno â'r tîm Gwasanaethau Profedigaeth.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo i weithredu amlosgfa a saith mynwent Abertawe o ddydd i ddydd, gan gynnwys goruchwylio angladdau, i sicrhau ein bod yn cynnal safonau uchel ac yn darparu gwasanaeth claddedigaethau ac amlosgiadau gofalgar ac urddasol i deuluoedd mewn profedigaeth.

Rydym yn chwilio am unigolyn hynod gymhellol, brwdfrydig sydd ag agwedd gadarnhaol, a fydd yn hyblyg wrth ymateb i ofynion amgylchedd gwaith prysur ac wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau eithriadol ar ran yr awdurdod. 

Dylech feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a gallu ymateb yn briodol i sefyllfaoedd heriol ac yn aml sensitif, delio â datrys gwrthdaro a dangos uniondeb a sensitifrwydd trwy gydol.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mehefin 2025