Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheolwr Safle Gweithredol (dyddiad cau: 25/06/25)

£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Mae hon yn swydd lawn-amser, barhaol.

Teitl y swydd: Rheolwr Safle Gweithredol
Rhif y swydd: PL.61218-V2
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Rheolwr Safle (PL.61218-V2) Disgrifiad Swydd (PDF, 268 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.61218-V2

Dyddiad cau: 11.45pm, 25 Mehefin 2025

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm rheoli safle yn Adran Gwaith Cyfalaf Gweithredol Gwasanaethau Adeiladu.

Byddwch yn gyfrifol am reoli, goruchwylio a darparu adnoddau i sicrhau cydymffurfiaeth contractau yn seiliedig ar fanylebau tendr ac anghenion gweithredol.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â rhywfaint o hyblygrwydd, sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith gydag ystod eang o randdeiliaid, o fewn ac allanol i'r sefydliad. Byddwch yn chwaraewr tîm rhagorol a hefyd yn gallu gweithio dan bwysau ac ar eich menter eich hun pan fo angen.

Am drafodaethau anffurfiol, cysylltwch â Darren Thomas 07796275548 Ashley Taylor 07796275560. Dyddiad ar gyfer dechrau'r rôl, i'w gadarnhau.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Mehefin 2025