Toglo gwelededd dewislen symudol

Archif Hyfforddai (dyddiad cau: 08/07/25)

£24,404 y flwyddyn. Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn awyddus i recriwtio graddedig ar gyfer lleoliad dros dro a fydd yn rhoi hyfforddiant a phrofiad iddynt o waith archif. Bydd cyfnod y contract yn rhedeg o 1 Medi 2025 i 31 Awst 2026.

Teitl y swydd: Archif Hyfforddai
Rhif y swydd: PL.3008
Cyflog: £24,404 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Archif Hyfforddai (PL.3008) Disgrifiad Swydd (PDF, 247 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.3008

Dyddiad cau: 11.45pm, 8 Gorffennaf 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae'r swydd Hyfforddai Archif yn rhoi cyfle i raddedigion sy'n dymuno ymuno ymuno â'r proffesiwn ennill profiad o bob agwedd ar waith archif cyn ymgymryd â hyfforddiant pellach ar un o'r cyrsiau ôl-raddedig cydnabyddedig. Mae'r cyfnod contract wedi'i gynllunio i gynorthwyo trosglwyddo'n llyfn i un o'r cyrsiau hynny.

Byddwch yn raddedig mewn pwnc perthnasol ac yn hunan-gymhelliant, yn barod i chwarae rhan mewn tîm bach o staff proffesiynol a pharabroffesiynol.  Byddwch wedi'ch lleoli yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe ond bydd yn ofynnol i chi weithio yn ein man gwasanaeth yng Nghastell-nedd hefyd.  Bydd disgwyl i chi gymryd rhan ar lefel briodol o gyfrifoldeb wrth baratoi ar gyfer symud y casgliadau archif.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â ni ar 01792 636589 neu e-bostiwch  archives@swansea.gov.uk 

Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn wasanaeth ar y cyd ar gyfer Cynghorau Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Mehefin 2025