Gweithiwr arweiniol cymorth cynnar (dyddiad cau: 08/07/25)
£31,067 - £34,314 y flwyddyn. Mae cyfle wedi codi i weithiwr arweiniol Hwb Cymorth Cynnar gyda'r Hwb Cymorth Cynnar. Mae'r swydd yn dymor penodol tan 31 Mawrth 2026 hyd nes y bydd cyllid pellach.
Teitl y swydd: Gweithiwr arweiniol cymorth cynnar
Rhif y swydd: SS.66522-V2
Cyflog: £31,067 - £34,314 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Arweiniol Cymorth Cynnar (SS.66522-V2) Disgrifiad Swydd (PDF, 301 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.66522-V2
Dyddiad cau: 11.45pm, 8 Gorffennaf 2025
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi'n mwynhau cefnogi plant a'u teuluoedd i gyflawni eu potensial llawn, yna gallai Cyngor Abertawe fod y gwasanaeth i chi. Ar hyn o bryd rydym yn edrych i recriwtio unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â'n Gwasanaeth Cymorth Cynnar sydd newydd ei ddatblygu. Byddwch yn dod yn rhan o strwythur canolfan amrywiol ac amlddisgyblaethol sydd â chyfrifoldeb am ddiwallu anghenion lles plant bregus, pobl ifanc a'u teuluoedd, sy'n agored i amrywiaeth o ffactorau risg.
Bydd y rôl yn ymgymryd â dull teuluol cyfan gyda phlant o oedran cymysg, gan sicrhau bod anghenion lles pob plentyn yn cael eu cefnogi gan ddefnyddio Fframwaith Ymarfer Arwyddion Llesiant.
Bydd y swydd yn rheoli ac yn cynnal llwyth achosion o deuluoedd, gan weithredu fel un pwynt cyswllt i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n agored i niwed sydd angen cymorth i atal problemau neu anghenion rhag dod yn fwy difrifol a/neu wedi'u gwreiddio, trwy ddarparu cefnogaeth gyson a chreadigol i helpu i adeiladu gwytnwch ac annibyniaeth.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Ian Richards ar 01792 635400.
Mae'r swydd yn dymor penodol i 31 Mawrth 2026 yn y lle cyntaf ond bydd yn cael ei hymestyn yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol