Toglo gwelededd dewislen symudol

Goruchwyliwr Datrysiadau Trafnidiaeth Integredig (dyddiad cau: 09/07/25)

£31,067 - £34,314 y flwyddyn. Mae gan yr Uned Trafnidiaeth Cleientiaid swydd wag dros dro ar gyfer Goruchwyliwr Datrysiadau Trafnidiaeth Integredig. Mae'r swydd hon am 37 awr.

Teitl y swydd: Goruchwyliwr Datrysiadau Trafnidiaeth Integredig
Rhif y swydd: PL.73743
Cyflog: £31,067 - £34,314 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Goruchwyliwr Datrysiadau Trafnidiaeth Integredig (PL.73743) Disgrifiad Swydd (PDF, 259 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.73743

Dyddiad cau: 11.45pm, 9 Gorffennaf 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae'r Trafnidiaeth Cleientiaid yn dechrau prosiect peilot i redeg cynllun trafnidiaeth gymunedol trwydded adran 22 a fydd yn cefnogi pobl Abertawe.

Bydd y gwasanaeth hwn yn darparu atebion hyblyg a hygyrch a arweinir gan y gymuned mewn ymateb i anghenion trafnidiaeth leol heb eu diwallu.

Bydd y Goruchwyliwr Datrysiadau Trafnidiaeth Integredig yn gyfrifol am gynllunio a chydlynu agweddau gweithredol y cynllun hwn

Os ydych chi'n chwilio am foddhad swydd, yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd dymunol, prysur, ac yn chwilio am waith sy'n heriol ac yn werth chweil, yna mae gweithio o fewn Trafnidiaeth Cleientiaid ar eich cyfer chi. 

Mae'r swydd hon yn rhan o gynllun peilot 'Integrated Transport Solutions' (ITS) a bydd dros dro am 12 mis hyd nes y bydd adolygiad.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Mehefin 2025