Domestig (dyddiad cau: 09/07/25)
£24,404 pro rata y flwyddyn. Aelod o'r tîm staff domestig -21 awr yr wythnos yng nghartref gofal preswyl The Hollies.
Teitl y swydd: Domestig
Rhif y swydd: SS.2439
Cyflog: £24,404 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Domestig (SS.2439) Disgrifiad Swydd (PDF, 257 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.2439
Dyddiad cau: 11.45pm, 9 Gorffennaf 2025
Rhagor o wybodaeth
1) Ai chi yw'r person rydyn ni wedi bod yn chwilio amdano?
2) Allech chi fod yn rhan o'n tîm llwyddiannus a chyfeillgar?
- Ydych chi'n berson llawn cymhelliant a brwdfrydig?
- Ydych chi'n ymfalchïo yn eich amgylchedd?
- Allech chi rannu eich gwybodaeth a'ch profiad?
- Ydych chi'n berson pobl ac ydych chi'n mwynhau gweithio gydag eraill?
- A yw helpu i wneud pobl yn hapus yn bwysig i chi?
- Ydych chi'n berson caredig, gofalgar/cyfeillgar a meddylgar?
Ydych chi'n meddwl bod hyn yn swnio fel chi? Yna daliwch ati a darllenwch ymlaen, efallai mai dyma'r swydd i chi!
Mae Cyfle Cyffrous wedi codi i weithio yng nghartref gofal preswyl The Hollies ym Mhontarddulais, fel aelod o'r tîm staff domestig, 21 awr yr wythnos.
Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi pobl hŷn, sydd ag anghenion gofal a chymorth a dementia, sy'n byw yn y cartref, neu'n dod i gael arhosiad byr yn y cartref.
Y safon uchaf o gefnogaeth ym mhob ardal yn y cartref yw'r pwysicaf, gan gynnwys y gefnogaeth a ddarperir gan aelodau ein tîm staff domestig, a fydd yn helpu i sicrhau bod y cartref yn cael ei gadw'n lân bob dydd.
Oes gennych chi ddiddordeb ac yn meddwl am ymgeisio? Mae hwnna'n wych!
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Dyma sut y byddwn yn eich helpu i wneud gwaith gwych a dim ond ychydig o bethau a allai fod yn bwysig i chi.
- Byddwch yn rhan o dîm o brofiadol a newydd.
- Byddwch yn cael eich cefnogi i wneud yr hyfforddiant cywir, gyda'r gefnogaeth gywir ac ennill y wybodaeth a'r sgiliau perthnasol ar gyfer y rôl.
- Byddwch yn derbyn sefydlu trylwyr a thâl sy'n cynnwys gweithio ochr yn ochr ag eraill o fewn y tîm a fydd yn eich helpu i ddysgu am y rôl.
- Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad rheolaidd i'ch helpu ar hyd y ffordd, gan gynnig cefnogaeth ac anogaeth i chi yn eich rôl newydd.
- Mae buddion eraill yn cynnwys y gyfradd gyflog ragorol gyda buddion ynghlwm am weithio gyda'r nos ar benwythnosau a gwyliau banc, yn ogystal â hawl i wyliau blynyddol rhagorol.
- Bydd gennych batrymau Shifts ar sail rota, y gellir eu trafod gyda chi i ganiatáu i chi gael cydbwysedd bywyd gwaith da.
I gael sgwrs am y rôl, mae croeso i chi gysylltu â Helen. Davies y Rheolwr, a fydd yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o beth mae'r rôl yn ei olygu drwy e-bost- Helen.davies4@swansea.gov.uk neu dros y ffôn ar - 01792 -882498
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol