Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Gymunedol Clwyd: Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg

(dyddiad cau: 18/07/25 am 3pm). Swydd Barhaol Llawn Amser. Cyflog: SCP 5, Graddfa 5 SCP 7 - 9 (£25,584.00 - £26,409.00) Pro Rata y flwyddyn. 35 awr yr wythnos am 40 wythnos y flwyddyn.

Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Dechrau'n Deg Buttercups Ysgol Gynradd Clwyd. 

Mae Dechrau'n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio cynnig cymorth i blant cyn-ysgol wedi'u targedu a'u teuluoedd, sy'n byw mewn ardaloedd amddifadedd dynodedig. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig mynediad i blant at ofal plant o ansawdd uchel fel rhan o ddull tîm aml-asiantaeth, er mwyn gwella canlyniadau wrth baratoi ar gyfer yr ysgol a'r tymor hir.

Rydym yn edrych i benodi gweithiwr gofal plant dros dro llawn amser i gefnogi'r Rheolwr a'r Dirprwy Dechrau'n Deg i ddarparu darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel yn ein lleoliad Dechrau'n Deg. Bydd angen cymwysterau perthnasol, sgiliau llythrennedd o safon uchel a phrofiad blaenorol o ddarparu darpariaeth gofal plant i blant dan 3 oed. 

Bydd angen i chi hefyd weithio'n effeithiol fel rhan o dîm a dangos brwdfrydedd ac angerdd dros gefnogi plant a'u teuluoedd fel rhan o Dechrau'n Deg ac ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Gellir casglu ffurflenni cais o swyddfa'r ysgol, y lleoliad Dechrau'n Deg a'u hanfon naill ai'r e-bost isod neu'r ysgol yn clwyd.primaryschool@swansea-edunet.gov.uk

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Ysgol Gynradd Gymunedol Clwyd - Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg - Disgrifiad Swydd (PDF, 272 KB)

Dychwelwch ffurflenni cais wedi'u cwblhau i gyfeiriad yr ysgol uchod, naill ai'n bersonol neu drwy'r post, neu fel arall e-bostiwch nhw i'r Rheolwr Dechrau'n Deg WattsT34@hwbcymru.net.

Os ydych chi'n dychwelyd drwy'r post, gwnewch yn siŵr eich bod yn atodi'r tâl post cywir gan y gall postio anghywir olygu nad yw'ch cais yn ein cyrraedd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18.07.2025 at 3pm
Cynhelir y rhestr fer ddydd Llun 21.07.2025
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal cyn gynted â phosibl

Bydd y swydd yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn gwiriad DBS dilys.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Gorffenaf 2025