Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Penyrheol : Derbynnydd

(dyddiad cau: 14/07/25)(3pm) Derbynnydd Lefel 3 APT+C Gradd 5 (SCP 7-9) 37 awr (yn ystod y tymor yn unig) Cyflog cychwynnol £22,056 y flwyddyn

YSGOL GYFUN PENYRHEOL
Heol Pontarddulais, Gorseinon, Abertawe SA4 4FG
(Cymysg) (873 ar y gofrestr) (Ystod Oedran 11-16)


Mae angen derbynnydd brwdfrydig, trefnus a phersonol arnom i weithio fel rhan o'n tîm swyddfa ymroddedig. Bydd y swydd am flwyddyn yn y lle cyntaf. Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth sydd gennych y sgiliau a'r rhinweddau personol ar ei gyfer, cwblhewch gais.

Mae ffurflenni cais a manylion ar gael i'w lawrlwytho o'n tudalen ar www.eteach.com. Yn ogystal, gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r pecyn gwybodaeth o www.abertawe.gov.uk

Dylid dychwelyd ffurflenni cais i'r cyfeiriad uchod neu eu hanfon drwy e-bost at adminjobs@penyrheol-comp.swansea.sch.uk

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Ysgol Gyfun Penyrheol Derbynnydd Pecyn Cais - Gorffennaf (PDF, 971 KB)

Dyddiad Cau: 3:00 pm Dydd Llun 14 Gorffennaf 2025
Rhestr fer: Dydd Mercher 16 Gorffennaf 2025
Cyfweliadau: Dydd Gwener 18 Gorffennaf 2025

Amcan yr amserlen apwyntiadau yw hysbysu ymgeiswyr am y dyddiadau y bydd yr ysgol yn gweithio iddynt ar gyfer y swydd wag a hysbysebwyd.  Dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi cael cynnig cyfweliad erbyn prynhawn dydd Mercher 16 Gorffennaf gymryd yn ganiataol nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn.

Datganiad Diogelu
Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS uwch 
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw busnes pawb" ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe. Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Mae Ysgol Gyfun Penyrheol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Gorffenaf 2025