Ysgol Gymraeg y Cwm: Pennaeth
(dyddiad cau: 04/09/25 am 2pm). Cytundeb: Llawn Amser. Tymor y cytundeb: Parhaol. GCU: L10-L16 Nifer ar y gofrestr: 127 o ddisgyblion (gan gynnwys meithrinfa). Bydd y cyflog a nodir yn amodol ar addasiad amser tymor yn unig os yw cychwyn y gyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd. I ddechrau yn Ionawr 2026 neu cyn gynted â phosibl.
***Mae'r iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon ***
Mae Ysgol Gymraeg Y Cwm yn ysgol hapus, ofalgar a chynhwysol sydd wrth wraidd ei chymuned. Mae'r ysgol wedi'i lleoli ar safle mawr sy'n darparu cyfleoedd ardderchog ar gyfer dysgu yn yr awyr agored. Gwerth craidd yr ysgol yw 'teulu a chymuned'. Credwn fod ein disgyblion yn dysgu gorau pan fyddant yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi, ac rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cadarnhaol a meithringar lle mae croeso i bawb.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Y Cwm yn chwilio am arweinydd angerddol, arloesol ac ysbrydoledig sydd â'r sgiliau proffesiynol angenrheidiol i adeiladu ar y sylfeini cadarn a'r perthnasoedd rhagorol sydd eisoes ar waith.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn arweinydd deinamig a gwydn a gweledigaeth i annog twf a ffyniant yr ysgol wrth ymateb i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
Rydym yn chwilio am bennaeth cynnes a chroesawgar sy'n gorfod dangos:
- Angerdd i hyrwyddo diwylliant Cymru a chynyddu'r defnydd a wneir o'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol ar draws yr ysgol ac o fewn y gymuned ehangach.
- Ymrwymiad i wella ein gweledigaeth a'n ethos unigryw a chynhwysol.
- Angerdd dros gefnogi a gwella lles pawb.
- Cred y gall pob plentyn, waeth beth fo'u cefndir neu allu, lwyddo.
- Sgiliau arweinyddiaeth strategol gryf ac ymrwymiad i gynnal safonau uchel o addysgu a dysgu, gan alluogi pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, sy'n gallu ysgogi a grymuso eraill.
- Y gallu i edrych y tu hwnt i gatiau'r ysgol a datblygu perthynas gadarnhaol ac effeithiol gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach.
Byddech chi'n cael eich cefnogi gan:
- Tîm o staff proffesiynol a gofalgar.
- Plant hapus a brwdfrydig sy'n mwynhau dysgu a chyfleoedd ehangach.
- Amgylchedd gofalgar, meithringar sy'n caniatáu i bob disgybl ddatblygu dyheadau cadarnhaol a chyrraedd safonau uchel.
- Rhieni cefnogol a brwdfrydig.
- Llywodraethwyr ymroddedig a phrofiadol.
- Ymrwymiad i ddysgu proffesiynol parhaus ar bob lefel.
- Partneriaethau addysgol a chymunedau allanol sefydledig.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr nad ydynt eisoes yn benaethiaid gael NPQH.
Mae'r swydd hon yn amodol ar gais Datgelu Uwch i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dylid dychwelyd y ffurflen gais at nia.ward@swansea.gov.uk
Ni ddylai eich llythyr cais ategol fod yn hwy na 2,000 o eiriau (maint ffont 12 neu faint 14 ar gyfer nam ar y golwg).
Ysgol Gymraeg Y Cwm - Pennaeth - Disgrifiad Swydd (PDF, 313 KB)
Ysgol Gymraeg Y Cwm - Pennaeth - Manyleb Person (PDF, 209 KB)
Ffurflen gais - pennaeth a'r dirprwy bennaeth (Word doc, 102 KB)
Byddem yn eich annog i ymweld â'n hysgol, fel y gallwch weld drosoch eich hun beth sydd gan yr ysgol i'w gynnig. Trefnir taith o amgylch yr ysgol ar gyfer darpar ymgeiswyr ar gyfer Dydd Llun, 14 Gorffennaf, 2025 am 2pm. Gallwch drefnu hyn drwy nia.ward@swansea.gov.uk
Taith o amgylch yr Ysgol: 14 Gorffennaf, 2025
Dyddiad cau: 4 Medi 2025 am 2pm
Rhestr Fer: 9 Medi, 2025
Proses gyfweld: 15 a 16 Medi, 2025
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol