Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Bryn Tawe: Cynorthwyydd Bugeiliol

(dyddiad cau: 11/07/25 at 12pm). Cyflog: Graddfa Cyflog 6 Pro Rata amser tymor yn unig. Cytundeb: Dros dro cyfnod secondiad 37 awr yr wythnos, amser tymor yn unig.

Rydym yn edrych i apwyntio cynorthwyydd  i dîm bugeiliol yr ysgol, i ddechrau cyn gynted â phosib. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm bugeiliol profiadol, brwdfrydig, gweithgar a chyfeillgar yr ysgol ac yn gweithio gydag unigolion a grwpiau o ddisgyblion ar draws CA3 a 4.  

Croesawn geisiadau gan unigolion â'r brwdfrydedd a'r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yn yr ysgol yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm addysgu Cymraeg yn Abertawe. Rydym yn benodol yn edrych am unigolion sydd â'r angerdd, y gallu neu'r profiad a'r natur i gefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i oresgyn unrhyw rhwystrau i'w dysgu. 

Mae'r rolau newydd yma, sy'n gofyn am unigolion amyneddgar, didwyll ac adferol, yn allweddol i gefnogi ein disgyblion i fod y gorau allant fod ac i lwyddo drwy gyrraedd eu potensial. Mae'r angen am y gefnogaeth bwysig yma yn allweddol i lwyddiant ein disgyblion. 

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)
 
Dyddiad Cau cyflwyno cais: Dydd Gwener 11fed o Orffennaf am 12yh
 
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy'r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon. 
Bydd y swydd yn amodol ar  wiriad cymwysterau a dau eirda. Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi. 
 
Dylid danfon am ffurflen gais a gwybodaeth bellach at:  Mrs Eirian Leonard, Rheolwr Busnes  Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BU.  
Dylid dychwelyd ffurflenni cais erbyn:  11fed o Orffennaf 2025 am 12yh

Mae'r awdurdod yn unol â'r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r Awdurdod yn disgwyl i bawb o'r staff ymgymered â hyfforddiant diogelu gorfodol ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf amdano.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Gorffenaf 2025