Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth (dyddiad cau: 24/07/25)

£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cyllid y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd i weithio fel swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth sy'n cwmpasu maes Comisiynu ac Adnoddau.

Teitl y swydd: Swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth
Rhif y swydd: SS.69653
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth (SS.69653) Disgrifiad Swydd (PDF, 276 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.69653

Dyddiad cau: 11.45pm, 24 Gorffennaf 2025

Rhagor o wybodaeth

Fel swyddog Cyllid a Chydymffurfiaeth, bydd gofyn i chi ddarparu cymorth arbenigol, cyngor ac arweiniad ar gyfer rheolaeth strategol cyllid y Gyfarwyddiaeth a rheoli amrywiaeth o becynnau gwaith fel rhan o'r Tîm Cyllid Comisiynu ac Adnoddau. 

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol medrus a brwdfrydig sy'n ymroddedig iawn ac yn hunan-gymhellol. Mae'r gwasanaeth y byddwch chi'n gweithio ynddo yn amgylchedd prysur a heriol ond gwerth chweil i weithio ynddo.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau ariannol/rhifiadol rhagorol ac yn ddelfrydol meddu ar gymhwyster cyfrifeg/cyllid.  Mae meddu ar sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a chyflwyno cryf a sgiliau dadansoddol datblygedig iawn yn hanfodol.  Ochr yn ochr â dangos gallu i weithio'n annibynnol ac yr un mor effeithiol fel rhan o dîm ehangach.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y swydd hon neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Joanne Hooper, Arweinydd y Tîm Cyllid a Datblygu ar 01792 636000.

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Gorffenaf 2025