Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Hwb Ieuenctid x2 (dyddiad cau: 24/07/25)

£24,790 - £25,183 y flwyddyn pro rata. Ydych chi'n llawn cymhelliant, brwdfrydig a gwydn, rhywun sy'n chwilio am yrfa heriol gyda phwrpas? Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc 11 - 18 oed yn Abertawe?

Teitl y swydd: Gweithiwr Hwb Ieuenctid x2
Rhif y swydd: SS.66190-V2
Cyflog: £24,790 - £25,183 y flwyddyn pro rata
Disgrifiad swydd: SS.66190-V2 SS.66186-V3 Gweithiwr Hwb Ieuenctid Disgrifiad swydd (PDF, 227 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y sywdd SS.66190-V2


Dyddiad cau: 11.45pm, 24 Gorffennaf 2025


Mwy o wybodaeth

Mae Gwasanaeth Pobl Ifanc Abertawe, a elwir yn Evolve, yn rhedeg rhwydwaith o 5 Hwb Ieuenctid ar gyfer pobl ifanc ledled Abertawe, gyda chyfleusterau yn ein Hwb Cymorth Cynnar y Gorllewin yng Ngorseinon, Hwb Cymorth Cynnar y Fali yn Stadwen, Hwb Cymorth Cynnar Townhill, Hwb Cymorth Cynnar y Dwyrain ym Mrynhyfryd a Hwb Cymorth Cynnar Penderi ym Mlaenymaes.

Ar hyn o bryd mae gennym sawl swydd wag ran-amser (15 awr) ar draws gwahanol safleoedd, gan weithio gyda'r nos yn rheolaidd. Bydd ein hymgeiswyr delfrydol yn greadigol, yn hyderus ac yn gyfforddus wrth adeiladu perthnasoedd cryf a chadarnhaol â phobl ifanc trwy ddarparu amgylchedd diogel, croesawgar a hwyliog iddynt lle byddwch yn dylunio ac yn darparu ystod o ddysgu, gweithgareddau, prosiectau a chyfleoedd ehangach yn y gymuned. Mae ein gwaith yn werth chweil iawn, yn heriol ac yn amrywiol.

Byddai'n fanteisiol os oes gennych brofiad blaenorol o weithio gyda phobl ifanc boed mewn lleoliad cyflogedig neu wirfoddol. 

Os ydych chi'n meddwl bod gennych y cymysgedd cywir o sgiliau, gwybodaeth, profiad a chymhelliant i ymuno â'n tîm gwych yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych, yn enwedig os gallwch gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Darperir hyfforddiant llawn, ac mae angen Datgeliad Cofnodion Troseddol Gwell, gwiriad iechyd a geirda boddhaol ar gyfer y swyddi hyn.

Mae croeso i chi gysylltu â Paul Worsfold am sgwrs anffurfiol Paul.Worsfold@swansea.gov.uk neu 01792 470270.

Mae'r swydd hon dros dro tan 31 Mawrth 2026.

Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Gorffenaf 2025