Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynorthwyydd Asesu (dyddiad cau: 30/07/25)

£25,584 - £26,409 y flwyddyn. Gan weithio yn Opsiynau Tai byddwch yn rhan o dîm brwdfrydig ac ymroddedig sy'n gyfrifol am asesu a chofrestru ceisiadau am Tai Cyngor.

Teitl y swydd : Cynorthwyydd Asesu
Rhif y swydd: PL.0313-V1
Cyflog: £25,584 - £26,409 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Cynorthwyydd Asesu (PL.0313-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 264 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0313-V1

Dyddiad cau: 11.45pm, 30 Gorffennaf 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae Opsiynau Tai yn derbyn nifer fawr o geisiadau bob mis, byddwch yn gyfrifol am ystod o dasgau sy'n gysylltiedig â chofrestru achosion ar ein Cofrestr Tai, yn ogystal â chadw cofnodion cywir, cynhyrchu ystadegau a chadw at bolisïau a gweithdrefnau perthnasol.

Byddwch hefyd yn darparu gwasanaeth derbynfa rheng flaen i gwsmeriaid yn Opsiynau Tai ac yn ateb a chyfeirio galwadau i dimau priodol ar ein switsfwrdd prysur. 

Bydd angen sgiliau cyfathrebu hyderus arnoch gan y byddwch yn cwrdd â chwsmeriaid a allai fod yn agored i niwed, sydd ag anghenion ychwanegol neu arddangos ymddygiad heriol. Bydd angen i chi reoli disgwyliadau cwsmeriaid, gan ddarparu cyngor ar chwilio am atebion amgen mewn marchnad dai heriol. 

Mae'r galw ar Dai Cymdeithasol yn uwch nag erioed ac mae'r rôl hon yn cynnwys rheoli llwyth gwaith mawr gyda galw uchel gan gwsmeriaid, felly mae'r gallu i weithio mewn amgylchedd prysur dan bwysau yn hanfodol.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Gorffenaf 2025