Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Gorfodi (Dros Dro) (dyddiad cau: 31/07/25)

£31,067 - £34,314 y flwyddyn. Rydym yn ceisio recriwtio Swyddog Gorfodi i ymuno â'n tîm Safonau Masnach prysur, ar gontract cyfnod penodol dwy flynedd.

Teitl y swydd: Swyddog Gorfodi (Dros Dro)
Rhif y swydd: PL.73853
Cyflog: £31,067 - £34,314 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Gorfodi (PL.73853) Disgrifiad Swydd (PDF, 264 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.73853

Dyddiad cau: 11.45pm, 31 Gorffennaf 2025

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn wasanaeth blaengar, dan arweiniad cudd-wybodaeth, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd arloesol o gwrdd â'r heriau sy'n wynebu tirwedd defnyddwyr a busnes heddiw. Rydym yn chwarae rhan weithredol mewn gwaith rhanbarthol a phartneriaeth, gyda'r nod o ddarparu amgylchedd diogel, teg a ffyniannus i fusnesau a defnyddwyr.

Rydym yn chwilio am swyddog llawn cymhelliant, brwdfrydig i ymuno â thîm sydd wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth i fusnesau yn y ddinas a mynd i'r afael â gweithgareddau masnachu anghyfreithlon, gan ddefnyddio'r ystod lawn o offer a thechnegau sydd ar gael. 

Byddwch yn drefnus ac yn cael hyblygrwydd i weithio oriau anghymdeithasol achlysurol. Yn anad dim, byddwch yn gallu delio'n gydymdeimladol ag aelodau o'r cyhoedd, a busnesau, tra hefyd yn hyderus yn eich gallu i ymdrin â sefyllfaoedd anodd a heriol.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Gorffenaf 2025