Swyddog Cyswllt Cymunedol X 2 (dyddiad cau: 31/07/25)
£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Mae'r Gwasanaeth Tai yn chwilio am 2 unigolyn hynod gymhellol a brwdfrydig i weithio fel Swyddogion Cyswllt Cymunedol, gan weithio fel rhan o dîm, i gymryd ymagwedd ragweithiol i fynd i'r afael ac atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar ei ystadau Tai.
Teitl y swydd: Swyddog Cyswllt Cymunedol
Rhif y swydd: PL.73854
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cyswllt Cymunedol (PL.73854) Disgrifiad Swydd (PDF, 273 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.73854
Dyddiad cau: 11.45pm, 31 Gorffennaf 2025
Rhagor o wybodaeth
Fel Swyddog Tîm Cyswllt Cymunedol, bydd gofyn i chi hyrwyddo cymunedau diogel a chydlynol ar ystadau Tai y Cyngor
Fel rhan o dîm o Swyddogion Cyswllt Cymunedol, bydd gofyn i chi ddarparu cymorth ac arweiniad i denantiaid a phreswylwyr yr effeithir arnynt gan ASB ac sy'n cymryd rhan ynddo.
Byddwch yn gyfrifol am ymchwilio i adroddiadau ASB mewn modd rhagweithiol ac amserol, i weithio tuag at gyflawni canlyniadau cadarnhaol a chychwyn camau gorfodi pan fo'n briodol.
Bydd angen i chi weithio ar y cyd â'r Gwasanaeth Tai Ardal, gwasanaethau tai eraill, asiantaethau partner, a gwasanaethau cymorth i gymryd dull aml-asiantaeth wrth nodi a mynd i'r afael ag ASB mewn modd rhagweithiol
Dylech fod â sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i adeiladu perthnasoedd â phob aelod o'r gymuned.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol