Peiriannydd Graddedig (dyddiad cau: 01/08/25)
£35,235 - £38,626 y flwyddyn. Ymunwch â thîm Prosiectau Cyfalaf Cyngor Abertawe - helpwch i lunio dyfodol trafnidiaeth. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r Tîm Dylunio Peirianneg: Prosiectau Cyfalaf yng Nghyngor Abertawe. Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid sut mae pobl yn teithio - boed ar gyfer gwaith, ysgol, neu hamdden - trwy wneud teithiau yn fwy cynaliadwy, dibynadwy a diogel.
Teitl y swydd: Peiriannydd Graddedig
Rhif y swydd: PL.0197-V2
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Peiriannydd Graddedig (PL.0197-V2) Disgrifiad swydd (PDF, 227 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0197-V2
Dyddiad cau: 11.45pm, 1 Awst 2025
Mwy o wybodaeth
Mae ein gweledigaeth yn cefnogi dinas sy'n tyfu, gysylltiedig lle mae cymunedau bywiog yn mwynhau cysylltiadau di-dor rhwng canol y ddinas a'r cefn gwlad a'r arfordir syfrdanol o'i amgylch.
Mae'r Tîm Prosiectau Cyfalaf yn chwarae rhan ganolog yn y trawsnewidiad hwn, gan ddarparu portffolio amrywiol o seilwaith trafnidiaeth, Teithio Llesol, maes cyhoeddus, a chynlluniau priffyrdd. Mae prosiectau'n amrywio o fentrau rheoli traffig ar raddfa fach i ddatblygiadau trafnidiaeth integredig a chynnal a chadw priffyrdd gwerth miliynau o bunnoedd.
Er mwyn ein helpu i gyflawni'r weledigaeth uchelgeisiol hon, rydym yn ehangu ein tîm ac yn chwilio am unigolion talentog sy'n angerddol am wneud gwahaniaeth.
Peiriannydd Graddedig - Tîm Prosiectau Cyfalaf
Gradd 8 - £35,235.00 - £38,626.00
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Simon Jones ar 07970 401121 neu David Hughes ar 07970 401119
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol