Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Blaenymaes: Uwch Weithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg

(dyddiad cau: 29/08/25 am 12pm). Cyflog: Gradd 6. Mae cyfle cyffrous wedi codi yn lleoliad 'Gloÿnnod Byw' Ysgol Gynradd Blaenymaes. Oriau gwaith: 40 wythnos y flwyddyn, amser tymor ac un wythnos ychwanegol yn ystod gwyliau'r haf. 35 awr yr wythnos rhwng 8am a 4pm.

Rydym yn edrych i benodi Uwch Weithiwr Gofal Plant â chymwysterau a phrofiadol.  Bydd angen i'r ymgeisydd fod â nifer o flynyddoedd o brofiad o weithio gyda phlant dan dair oed mewn lleoliad gofal plant, gwybodaeth ardderchog am ddatblygiad plant ac yn ddelfrydol gwybodaeth a phrofiad o weithio mewn lleoliad Dechrau'n Deg.  Bydd angen i'r person fod yn weithgar, ymroddedig, addasadwy ac yn gallu ysgogi ac arwain tîm profiadol o staff gofal plant.  Byddai profiad o weithio gyda phlant ag ADY, ysgrifennu adroddiadau, mynychu cyfarfodydd a rheoli llwythi achosion hefyd yn ddymunol. Mae'r lleoliad yn gweithredu addysgeg dysgu dan arweiniad plant felly mae bod yn agored i'r ffordd hon o weithio yn hanfodol.

Mae Dechrau'n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio cynnig cymorth i blant cyn-ysgol wedi'u targedu a'u teuluoedd, sy'n byw mewn ardaloedd amddifadedd dynodedig. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig mynediad i blant at ofal plant o ansawdd uchel fel rhan o ddull tîm aml-asiantaeth, er mwyn gwella canlyniadau wrth baratoi ar gyfer yr ysgol a'r tymor hir.

Mae'n ofyniad o'r swydd bod yn rhaid i'r Uwch Weithiwr Gofal Plant weithio tuag at gyrraedd CCLD Lefel 5 (Ymarfer Uwch), oni bai ei fod eisoes wedi'i gyflawni..

Ysgol Gynradd Blaenymaes - Gweithiwr Gofal Plant Hŷn Dechrau'n Deg - Disgrifiad swydd (PDF, 461 KB)

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Dylid dychwelyd ffurflenni cais at y Rheolwr Gofal Plant Samantha Lorey neu eu hanfon at Dechrau'n Deg Glöynnod Byw, Rhodfa Brychdyn, Blaenymaes, Abertawe SA5 5LW erbyn dydd Gwener 12pm, 29 Awst 2025.

Bydd y swydd yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn gwiriad DBS dilys a geirdaon addas.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Samantha Lorey ar 01792 583002 neu LoreyS9@Hwbcymru.net.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Gorffenaf 2025