Prif Reolwr Adfywio Corfforol (dyddiad cau: 09/09/25)
£44,711 - £48,710 y flwyddyn. (Gradd 10) Mae hon yn swydd barhaol, llawn amser (37 awr). Dewch i gymryd yr awenau wrth lunio dyfodol Abertawe drwy gyflwyno cynlluniau adfywio proffil uchel mawr, o chwarteri swyddfa newydd o ansawdd uchel i ddatblygiadau hamdden newydd cyffrous.
Teitl y swydd: Prif reolwr Adfywio Corfforol
Rhif y swydd: PL.68001
Cyflog: £44,711 - £48,710 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Prif Reolwr Adfywio Corfforol (PL.68001) Disgrifiad Swydd (PDF, 296 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.68001
Dyddiad cau: 11.45pm, 9 Medi 2025
Rhagor o wybodaeth
Dewch â'ch arbenigedd arolygu masnachol a datblygu i rôl amrywiol y Prif Reolwr Adfywio Corfforol (Parhaol; Gradd 10) yn ein tîm Datblygu ac Adfywio Corfforol deinamig, blaengar..
Ymunwch â thîm Datblygu ac Adfywio Corfforol Cyngor Abertawe i chwarae rhan ganolog wrth gyflawni prosiectau ailddatblygu trawsnewidiol sy'n siapio dyfodol y ddinas.
Mae'r tîm yn gyfrifol am gynlluniau proffil uchel, gan gynnwys Bae Copr (sy'n cynnwys arena 3,500 o gapasiti, meysydd parcio aml-lawr, llety preswyl, a pharc arfordirol), 71/72 Kingsway (datblygu swyddfa sy'n canolbwyntio ar dechnoleg), a phrosiectau arwyddocaol eraill fel ailddatblygu Gerddi Sgwâr y Castell sydd ar y gweill.
Fel Prif Reolwr Adfywio Corfforol, byddwch yn cymryd yr awenau ar brosiectau ar raddfa fawr ac yn cyfrannu at gyflawni pob agwedd ar gynlluniau adfywio, o ddichonoldeb i gyflawni.
Fel rhan o'r tîm blaengar hwn sydd â phiblinell amrywiol o fentrau newydd, cewch gyfle i weithio ar gynlluniau mawr fel Canol Abertawe, y Ganolfan Ddinesig a'r Glannau, a Gwaith Copr yr Hafod, yn ogystal â gweithredu'r Cynllun Creu Lleoedd sydd ar ddod ar gyfer canol y ddinas.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn weithiwr proffesiynol cymwysedig gyda sgiliau a phrofiad arolygu masnachol mewn cyflawni prosiectau sy'n canolbwyntio ar eiddo, trafod cytundebau datblygu, prydlesu eiddo masnachol, a chydweithio â datblygwyr, ond mae ganddo brofiad a gwybodaeth o'r broses ddatblygu sy'n cyflawni'r camau RIBA olaf.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu cryf i ymgysylltu'n llwyddiannus â chydweithwyr, rhanddeiliaid, uwch wneuthurwyr penderfyniadau, a Chynghorwyr, ynghyd ag ymwybyddiaeth o bolisïau'r Cyngor, rhwymedigaethau statudol, a chyfleoedd ariannu.
Bydd y swydd wedi'i lleoli'n bennaf yn y Ganolfan Ddinesig mewn amgylchedd ystwyth, gyda gweithio hybrid a hyblyg.
Mae hon yn swydd barhaol, llawn amser (37 awr).
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Emma Dakin, Arweinydd Tîm Prosiectau Strategol emma.dakin@swasea.gov.uk neu Gail Evans, Arweinydd Tîm Canol y Ddinas, gail.evans@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol