Abertawe'n barod i groesawu un o sioeau celf teithiol gorau Prydain
Mae Abertawe'n barod i groesawu un o sioeau celf teithiol enwocaf Prydain am y tro cyntaf.

Y British Art Show yw'r arddangosfa celf gyfoes reolaidd fwyaf a mwyaf arwyddocaol yn y DU.
Mae'r arddangosfa wedi'i datblygu a'i chynhyrchu gan Hayward Gallery Touring, sefydliad celf gyfoes blaenllaw'r DU sy'n cynhyrchu arddangosfeydd teithiol, sy'n rhan o'r Southbank Centre.
Ers mwy na 40 mlynedd mae British Art Showwedi helpu i ddod â rhai o artistiaid mwyaf adnabyddus y wlad fel Tracey Emin, Grayson Perry, David Hockney a Lucien Freud i ddinasoedd ar draws Prydain.
A nawr mae taith ddiweddaraf yr arddangosfa - British Art Show 10 - yn dod i Oriel Gelf Glynn Vivian a phedwar lleoliad celf arall o gwmpas canol y ddinas fel rhan o daith o'r DU sy'n dechrau yng Nghofentri ym mis Medi 2026.
Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, ei fod yn wych i Abertawe gael ei henwi fel un o ychydig o leoedd yn unig yn y wlad a fydd yn croesawu'r arddangosfa.
Meddai, "Mae'r daith yn dod i Abertawe ym mis Chwefror 2027 a ble bynnag yr ydych yng nghanol y ddinas, ni fyddwch yn bell ohoni oherwydd fe'i cynhelir yn Oriel Elysium, GS Artists, Oriel Mission, Theatr Volcano yn ogystal ag Oriel Gelf Glynn Vivian.
"Abertawe fydd yr unig le yng Nghymru i gynnal yr arddangosfa, anrhydedd sy'n dangos enw da cynyddol ein lleoliadau fel mannau sy'n arddangos bywiogrwydd ein byd celf creadigol lleol ond hefyd yn cyflwyno celf o bob rhan o'r DU a thu hwnt i gynulleidfaoedd brwdfrydig.
"Mae'r rhestr o artistiaid a fydd yn arddangos yn gyfrinachol o hyd, ond rydym yn gwybod y bydd pobl leol yn cael y cyfle i weld peth o'r gelf orau a gynhyrchwyd ym Mhrydain dros y pum mlynedd diwethaf ar eu carreg drws.
"Gan ystyried bod y British Art Show wedi cynnwys artistiaid fel David Hockney a Tracey Emin yn y gorffennol, gallwn addo y bydd sawl darn o waith a fydd yn creu argraff."
Meddai Karen Mackinnon, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian,
"Mae'n wych bod y British Art Show yn dod i Abertawe. Rydyn ni i gyd yn gyffrous iawn am y cyfle hwn i weithio gyda'n gilydd ar brosiect cenedlaethol aml-leoliad ar draws Abertawe.
"Rydym yn sicr y bydd curadur ac ysgrifennydd yr arddangosfa, Ekow Eshun, yn dewis detholiad anhygoel o artistiaid o bob rhan o'r DU a fydd yn arddangos gwaith y bydd ein cynulleidfaoedd a'n cymunedau yn ei fwynhau, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd i artistiaid lleol ac etifeddiaeth greadigol ar gyfer y ddinas.
"Mae gan Oriel Gelf Glynn Vivian berthynas hirsefydlog â Hayward Gallery Touring, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw ar yr arddangosfa fawr hon."
Mae'r daith yn dechrau yng Nghofentri ym mis Medi 2026 cyn symud ymlaen i Abertawe ym mis Chwefror 2027. Bydd yn mynd i Fryste, Sheffield a Newcastle wedi hynny.
Cefnogir British Art Show 10 yn Abertawe gan Gyngor Abertawe a Chyngor Celfyddydau Cymru. Ychwanegodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, "Rydym yn falch iawn y bydd arddangosfa British Art Showyn cael ei chynnal ar draws Abertawe yn 2027, ac mae'n bleser gennym gynnig cyllid cymorth drwy'r partner arweiniol lleol, Oriel Gelf Glynn Vivian.
"MaeBritish Art Show, a gyflwynir ar draws lleoliadau celfyddydau gwych yng Nghymru gan gynnwys Oriel Elysium, GS Artists, Oriel Mission, Theatr Volcano ac Oriel Gelf Glynn Vivian, yn darparu cyfle ardderchog i arddangos yr hyn sydd gan Abertawe i'w gynnig o ran ei byd celf bywiog, yn cynyddu ymwybyddiaeth, ac yn cynyddu cyfleoedd i'r gymuned artistig, a gorau oll, bydd yn dod â phobl i'r ddinas i fwynhau cynnig diwylliannol cyffrous."