Gwaith adfer ar y gweill ar gyfer safle mawndir yn Abertawe
Mae cynlluniau ar waith i adfer mawndir gwerthfawr yn Abertawe i helpu i roi hwb i fioamrywiaeth a gwarchod yr amgylchedd lleol rhag newid yn yr hinsawdd.

Mae Cyngor Abertawe wedi sicrhau cyllid gwerth £24,000 drwy'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, sef rhaglen a weinyddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, i warchod ac adfer mawndiroedd gwerthfawr ledled Cymru.
Defnyddir y cyllid i gwblhau ystod o astudiaethau yn Fferm y Garth, safle sy'n eiddo i'r cyngor ger Ynystawe.
Mae'r safle mawndir tri hectar wedi'i ddynodi'n Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur, ac mae wedi'i asesu fel un sy'n dirywio, ac mae angen cynllun tymor hir i adfer y safle ac atal allyriadau carbon.
Gan fod cyllid bellach wedi'i sicrhau, bydd Tîm Adfer Natur y cyngor yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid allanol, a fydd yn cynnal cyfres o astudiaethau yn ystod y deuddeg mis nesaf, gan gynnwys astudiaethau hydrolegol, dadansoddi dyfnder mawn a chreu cynllun adfer.
Ledled y byd, ystyrir mawndiroedd fel rhai o'r ecosystemau mwyaf cyfoethog o ran carbon ar y ddaear a, phan fyddant yn iach, maent yn darparu buddion enfawr, gan gynnwys dal carbon deuocsid o'r atmosffer, helpu i atal llifogydd yn ogystal â chreu cynefinoedd pwysig ar gyfer ystod o fywyd gwyllt.
Yn y DU, mae tua 80% o fawndiroedd yn dioddef o ddirywio amgylcheddol, gan ryddhau nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer.
Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Mae hwn yn brosiect cyffrous a fydd yn darparu buddion i gynefinoedd bywyd gwyllt yn ogystal â helpu i wrthdroi effeithiau newid yn yr hinsawdd.
"Bydd y cyllid cychwynnol yn rhoi cyfle i'n Tîm Adfer Natur gynnal asesiadau manwl o'r safle a galluogi datblygu cynllun a fydd yn ceisio adfer y mawndir am flynyddoedd i ddod."
Mae llwyddiant y rownd ariannu ddiweddaraf hefyd yn dilyn gwaith blaenorol a wnaed gan y Tîm Adfer Natur, gyda chymorth gwahanol bartneriaid, gan gyflwyno ystod eang o brosiectau sy'n gysylltiedig â rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
Buddsoddwyd mwy na £1 miliwn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ddatblygu prosiectau amrywiol sy'n helpu i greu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt, yn enwedig mewn ardaloedd trefol ac mae'n cynnwys enghreifftiau fel gosod cannoedd o flychau adar ac ystlumod mewn ardaloedd preswyl.
Mae'r cynllun hwn hefyd wedi arwain at greu chwe pherllan gymunedol newydd.
Ychwanegodd y Cyng. Hopkins, "Mae'r cyllid wedi galluogi'r cyngor i weithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid, gyda'r nod o hybu bioamrywiaeth ac annog cynefinoedd gwell ar gyfer bywyd gwyllt.
"Mae amrywiaeth go iawn o gynlluniau wedi'u datblygu, ac rwy'n hyderus y byddant o fudd mawr i gymunedau lleol ac yn cynyddu presenoldeb bywyd gwyllt mewn ardaloedd trefol."
Mae prosiect Fferm y Garth yn rhan o Raglen Weithredu ar Fawndiroedd Cymru, ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, a ariennir drwy'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd a Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.