Teganau ffug a ganfuwyd yn Abertawe'n arwain Safonau Masnach i Lundain
Mae Safonau Masnach Abertawe wedi atafaelu gwerth miliynau o bunnoedd o deganau ffug yn Llundain.

Yr atafaeliad diweddaraf, y credir ei fod yn werth tua £3 miliwn, yw'r ail ymweliad â phrifddinas y DU mewn llai na thri mis gan Safonau Masnach Cyngor Abertawe, wrth iddynt barhau i ddilyn trywydd teganau ffug a pheryglus sy'n cael eu gwerthu mewn siopau yn Abertawe.
Y tro hwn, amcangyfrifir bod 25 tunnell o deganau ffug wedi'u hatafaelu o nifer o fannau dosbarthu ar gyrion Llundain.
Yr ymweliad yw'r ail un eleni ac mae'n rhan o Ymgyrch 'Grinch' - ymgyrch amlasiantaeth barhaus dan arweiniad Cyngor Abertawe, gyda chymorth gan yr Heddlu Metropolitanaidd a'r Grŵp Gwrth-ffugio, yn ogystal â chefnogaeth gan Safonau Masnach yng Nghasnewydd, Caint a Sussex.
Mae'r teganau a atafaelwyd yn cynnwys miloedd o deganau 'Labubu' ffug - un o'r eitemau mwyaf poblogaidd a chasgladwy yn y DU. Atafaelwyd llawer mwy o deganau ffug gan frandiau poblogaidd eraill gan gynnwys Pokemon, Disney a Marvel hefyd, ynghyd â miloedd o fêps anghyfreithlon.
Meddai Swyddog Arweiniol Safonau Masnach Cyngor Abertawe, Rhys Harries, "Mae'r atafaeliad diweddaraf yn ganlyniad i ymchwiliadau manwl ynghylch ffynonellau teganau ffug y daethom i wybod eu bod yn cael eu gwerthu yn Abertawe, yn bennaf adeg y Nadolig pan ymwelodd swyddogion â siopau dros dro.
"Yn ddiweddar, atafaelom nifer sylweddol o deganau Labubu o siopau yn Abertawe. Mae'n ymddangos mai dyma un o'r teganau mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd, felly nid yw'n syndod ein bod wedi darganfod yn ystod yr ymgyrch ddiweddaraf fod llawer mwy yn aros i gael eu dosbarthu i siopau ledled y DU. Maen nhw i gyd bellach wedi'u hatafaelu.
"Mae'n ymddangos bod yr holl deganau hyn yn ffug o ran y brand. Maent eu gwneuthuriad hefyd yn wael, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn beryglus i blant ifanc oherwydd peryglon tagu.
Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol: "Mae'r atafaeliad nwyddau ffug diweddaraf hwn yn arwyddocaol o ran yr effaith gadarnhaol y mae wedi'i chael, nid yn unig yn Abertawe, ond o gwmpas y DU.
"Nid delio â nwyddau ffug oedd yn cael eu gwerthu ar y stryd yn Abertawe'n unig wnaeth ein Safonau Masnach ein hunain, fe ddangoson nhw lawer o broffesiynoldeb a phenderfyniad i fynd i'r afael â'r dosbarthiad ehangach i drefi a dinasoedd eraill.
"Rwy'n hynod falch o ymdrechion pawb, ynghyd â chymorth partneriaid allanol sydd wedi darparu cefnogaeth ar gyfer yr ymgyrch hon."