Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth (dyddiad cau: 22/08/25)

£32,061 - £35,412 y flwyddyn. Mae'n bleser gennym gyhoeddi cyfle gyrfa cyffrous i Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth yng Ngwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth yr Adran Lle. *Ymgeiswyr mewnol yn unig*

Teitl y swydd: Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth
Rhif y swydd: PL.69428
Cyflog: £32,061 - £35,412 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Strategaeth Trafnidiaeth (PL.69428) Disgrifiad Swydd (PDF, 297 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.69428

Dyddiad cau: 11.45pm, 22 Awst 2025

Rhagor o wybodaeth

Bydd y rôl yn amrywiol gan gynorthwyo o ddydd i ddydd gyda'r swyddogaeth Strategaeth a Monitro Trafnidiaeth, gan gynnwys llunio polisi trafnidiaeth, sicrhau cyllid allanol a chynorthwyo rheoli rhaglenni trafnidiaeth gyfalaf.

Y Sefydliad

Cyngor Abertawe yw'r ail Gyngor mwyaf yng Nghymru.  Mae ein gwerthoedd a'n hegwyddorion yn cynnwys rhoi'r ansawdd bywyd gorau posibl i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol trwy ffocws pobl, gweithio gyda'i gilydd ac arloesi.

Y Swydd

Mae Abertawe wedi bod yn mynd trwy gyfnod o fuddsoddiad ac adfywio sylweddol. Mae'r twf hwn yn dod â heriau a chyfleoedd mawr o ran darparu gwasanaethau trafnidiaeth a mynediad i ddiwallu anghenion y rhai sy'n gweithio ac yn byw yn Ninas a Sir Abertawe a'r ardaloedd cyfagos.

Mae'r Cyngor felly yn chwilio am gynllunydd trafnidiaeth sydd â chymwysterau priodol i gynorthwyo i lunio a chyflawni polisïau trafnidiaeth, prosiectau seilwaith a mentrau trafnidiaeth.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am ymchwilio i weithredu technolegau newydd ac sy'n dod i'r amlwg ar gyfer teithio cynaliadwy, sicrhau pecynnau cyllid a goruchwylio cyflawni prosiectau fel rhan o dîm ehangach.

Bydd gennych brofiad o weithio mewn maes cynllunio trafnidiaeth gyda sgiliau gweinyddu rhagorol mewn pecynnau Microsoft ac yn fedrus mewn defnyddio Excel. 

Bydd rhinweddau personol yn cynnwys bod yn addasadwy, hyblyg gyda'r gallu i ddelio â sefyllfaoedd anrhagweladwy wrth iddynt godi. Byddwch yn gallu blaenoriaethu o dan bwysau, mewn amgylchedd newid.

Bydd disgwyl i chi weithio mewn amgylchedd ystwyth wedi'i leoli'n bennaf yn Neuadd y Dref Abertawe.

Rhaid i chi fod â sgiliau cyfathrebu da a bod yn barod i ryngweithio'n gadarnhaol gyda phob aelod o'r Cyngor a'r tîm.

Y Lleoliad

Mae Abertawe yn Ne Cymru yn lle hardd i fyw ynddo, a gweithio wedi'i amgylchynu gan rai o draethau harddaf y byd ar Benrhyn Gŵyr a chefn gwlad trawiadol ledled Cwm Tawe. Mae gan Abertawe boblogaeth o tua 246,000 o bobl.  Mae'n dref brifysgol ffyniannus ac yn cael ei hadnabod fel man geni Dylan Thomas.  Mae'n brydferth, yn greadigol ac yn unigryw.

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Awst 2025