Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cam olaf y gwaith i wella llwybr yr arfordir i ddechrau yn yr hydref

Bydd cam olaf y gwaith i wella llwybr cerdded poblogaidd ar arfordir Gŵyr yn dechrau yn yr hydref.

limeslade cost path

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn uwchraddio rhannau o Lwybr Arfordir Gŵyr rhwng Rotherslade a Limeslade.

Crëwyd rhan 450 metr newydd sbon o'r llwybr ym mis Mawrth eleni, a hynny ar ben rhan flaenorol, a oedd yn ymestyn am 270 metr arall, a gwblhawyd yn 2022.

Crëwyd y ddwy ran newydd fel dargyfeiriad o'r llwybr gwreiddiol, y mae erydu arfordirol wedi effeithio arno. Ariannwyd y gwelliannau drwy gynllun grantiau Llwybr Arfordir Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwaith parhaus i wella'r llwybr yn cynnwys dwy ran arall nas cwblhawyd eto rhwng Rotherslade a Limeslade, gan ddarparu llwybr hollol hygyrch i ymwelwyr sy'n ddigon llydan ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a rhieni â chadeiriau gwthio.

Mae'r cyngor yn buddsoddi £80,000 i gwblhau'r gwelliannau, fel rhan o'i gynlluniau cyffredinol i gynnal ffyrdd a llwybrau cerdded ar draws Abertawe.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn gaffaeliad hynod boblogaidd i'r ddinas. Mae miloedd o bobl yn cerdded yno bob blwyddyn.

"Gwaetha'r modd, mae erydu arfordirol wedi effeithio ar y rhan rhwng Limeslade a Rotherslade yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wedi gwneud popeth posib i greu rhannau newydd a dargyfeirio'r llwybr o'r ardal dan sylw.

"Mae hyn hefyd wedi rhoi'r cyfle i ni greu llwybr cerdded mwy hygyrch i bawb.

"Mae dwy ran fer na chawsant eu huwchraddio eto ac, er nad yw erydu arfordirol yn effeithio arnynt, byddai gwaith gwella tebyg o fudd iddynt.

"Rydym wedi dewis buddsoddi rhan o'n cyllideb priffyrdd a thrafnidiaeth i alluogi'r gwaith gwella i fynd rhagddo.

"Ein bwriad yw aros tan i gyfnod prysur yr haf ddod i ben a bydd ein contractwyr dethol yn gallu mynd i'r safle a chwblhau'r gwaith."

Agorwyd rhan Abertawe o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn swyddogol yn 2012 ar ôl cysylltu 61km o'r llwybr er mwyn galluogi pobl i gerdded o lannau Abertawe yn SA1 i Gasllwchwr, gan deithio drwy Fae Caswell, Porth Einon, Rhosili a Llanmadog.

Bu gwaith gwella ar 1.5km o'r llwybr rhwng Bae Caswell a Langland yn y gorffennol. 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Awst 2025